Y gefnogaeth gywir
Mae Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru yn dweud wrthym ni fod rhaid i ni ganolbwyntio ar yr unigolyn ym mhopeth a wnawn. Mae hyn yn golygu siapio ein gwasanaethau a chymorth o amgylch yr unigolyn a’u hanghenion – nid i’r gwrthwyneb.
Mae nifer o ffyrdd gallwn sicrhau bod unigolion wrth galon yr hyn a wnawn. Dewiswch un o’r dewisiadau isod.
Eiriolaeth yw gweithredu er mwyn cynorthwyo pobl i ddweud yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud, diogelu eu hawliau, cynrychioli eu buddion a chael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Cylchoedd Cefnogaeth yw grŵp o bobl sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod sut i helpu unigolyn i gyflawni eu nodau, breuddwydion a dyheadau.
Mae cyd-gynhyrchu yn golygu bod staff a dinasyddion yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i ddylunio a rhoi’r gefnogaeth mae pobl ei angen.
Mae cymryd risg gadarnhaol yn galluogi pobl gydag anableddau dysgu i gael gwell rheolaeth dros y ffordd maent yn byw eu bywydau, a all ddod â buddion o ran annibyniaeth a lles, ond gall hefyd gynnwys elfen o risg.
Mae Taliadau Uniongyrchol yn ddewis cyllido sy’n eich galluogi i dderbyn arian er mwyn trefnu eich gofal a bodloni eich anghenion. Mae’n ffordd dda i bobl gydag anableddau dysgu a’u rhieni/gofalwyr gael mwy o ddewis a rheolaeth gyda’u gofal a chymorth.
Mae’r ffordd rydym yn cyfathrebu yn bwysig er mwyn deall a chefnogi ein gilydd orau.
Mae’n bwysig bod gwasanaethau’n gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth iawn, ar yr amser iawn.
Mae cefnogaeth ymarferol yn ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn darparu cymorth uniongyrchol. Nod Cefnogaeth Ymarferol yw sicrhau bod gan bobl gymorth dyddiol parhaus er mwyn cyfranogi mewn amrywiaeth o weithgareddau bywyd a chyfleoedd o’u dewis nhw.
Mae Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol yn ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gydag anableddau dysgu a all fod mewn risg o ddatblygu ymddygiadau heriol. Mae’n darparu cefnogaeth yn seiliedig ar gynhwysiant, dewis, cyfranogiad a chyfle cyfartal.
Mae’r rhai sy’n cefnogi pobl gydag anableddau dysgu angen bod â’r gwerthoedd, sgiliau a gwybodaeth iawn i ddarparu cefnogaeth safonol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.