Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Bwrdd Prosiect

Mae’r Bwrdd Prosiect yn cefnogi holl Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni’r Rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu ac amcanion y Strategaeth Anabledd Dysgu. Maent yn helpu i gynllunio a monitro cyflawni’r rhaglen trawsnewid ar ran Grŵp Arweinyddiaeth Gogledd Cymru a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

I wneud hyn yn dda mae’r Bwrdd Prosiect yn sicrhau:

  • fod yna gyfeiriad strategol clir a chyson, arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd clir;
  • mae gwella ansawdd bob amser yn rhan o’n meddylfryd a’n hymagwedd;
  • mae yna waith tîm da, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth;
  • caiff risgiau eu hadnabod a’u rheoli’n effeithiol;
  • caiff penderfyniadau eu seilio ar yr wybodaeth a’r dystiolaeth gywir.

Mae’r Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu yn ateb yn uniongyrchol i’r Bwrdd Prosiect. Mae’r Bwrdd Prosiect yn monitro Cynlluniau Prosiect y Prosiect Trawsnewid ac yn sicrhau eu bod yn gosod ac yn bodloni’r targedau cywir.

Fe fydd y bwrdd prosiect yn monitro’r cynllun trawsnewid gwasanaeth a’r dangosyddion perfformiad allweddol ac yn cytuno ar y trefniadau adrodd manwl a fydd eu hangen i gael sicrwydd ar gerrig milltir crynodeb cyflawniad.

Mae Cylch Gorchwyl y Bwrdd Prosiect yma.

Aelodau’r Bwrdd Prosiect

  • Neil Ayling, Prif Swyddog a Noddwr Rhaglen.
  • Bethan Jones Edwards, Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol.
  • Lesley Singleton, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Clare Lister, Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
  • Kathryn Whitfield, Rheolwr Rhaglen ar gyfer y rhaglen Trawsnewid Anabledd Dysgu.
  • Craig Macleod, Uwch Reolwr, Plant a’r Blynyddoedd Cynnar, Sir y Fflint.
  • Susie Lunt, Uwch Reolwr, gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion, Sir y Fflint.
  • Jennie Lewis, Cynrychiolydd Gofalwyr.
  • Shan Williams, Cynrychiolydd y Cymdeithasau Tai.
  • Nichaela Jones, Pennaeth Nyrsio Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Michelle Williams, Cynrychiolydd Dinasyddion.
  • Jonathan M. Davies, Cyfrifydd.
  • Jacqui Cauldwell, Cynrychiolydd Rhieni/Gofalwyr.
  • James Lewis, Cynrychiolydd Dinasyddion.
  • Alwyn Jones, Prif Swyddog, Ynys Môn.
  • Awen Morwenna Edwards, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwynedd.
  • Jenny Williams, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Conwy.
  • Nicola Stubbins, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Sir Ddinbych.
  • Charlotte Walton, Prif Swyddog, Wrecsam.
  • Barbara Williams, Rheolwr Gwasanaeth, Anableddau Dysgu, Ynys Môn.
  • Alaw Pierce, Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Arbenigol, Sir Ddinbych.

Hoffai Kathryn Whitfield a gweddill y tîm ddiolch i Neil Ayling, Lesley Singleton, y bwrdd prosiect a’r rhwydwaith ehangach o gyfarwyddwyr, uwch reolwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr o bob cwr o Ogledd Cymru am eu cyngor, arweiniad a chefnogaeth barhaus. Mae eu dyfalbarhad a’u hymrwymiad i amcanion y strategaeth wedi bod yn hynod o werthfawr. Yn olaf hoffem ddiolch i Sarah Bartlett a’r Uned Gydweithio Rhanbarthol, hebddynt ni fyddai Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru yn bodoli.