Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Bod yn ddiogel

Mannau Diogel

Mae Mannau Diogel yn gynllun sy’n cynorthwyo pobl gydag anableddau dysgu (ac eraill) os ydynt yn teimlo pryder neu risg wrth fynd allan.  Mae gwahanol fannau yn y gymuned, fel siopau neu lyfrgelloedd, yn cofrestru i fod yn Fannau Diogel.  Mae sticeri ffenestr yn dangos lle mae’r mannau diogel, a gall pobl ddefnyddio ap ar eu ffôn i ddod o hyd iddynt hefyd.  Mae staff mewn mannau diogel wedi’u hyfforddi i wybod beth i’w wneud pan fydd rhywun yn dod i mewn yn gofyn am gymorth.

Edrychwch ar wefan Mannau Diogel sy’n cynnwys fideos cynorthwyol, a manylion mannau lleol sydd wedi cofrestru i’r cynllun.  Mae Mannau Diogel eisoes yn bodoli yn Wrecsam a Sir Ddinbych.  

Gallwch fynd i wefan Safe Places yma

Troseddau Casineb a ‘Throseddau Cyfeillio’

Trosedd casineb yw unrhyw drosedd lle bo rhywun wedi’u targedu oherwydd eu hanabledd (neu unrhyw ‘nodwedd a ddiogelir‘ arall).

Os nad yw rhywun yn cyflawni trosedd, ond eu bod yn eich targedu am y rheswm hwn, mae’n cael ei alw’n ddigwyddiad casineb.  Weithiau os yw rhywun yn cyflawni nifer o ddigwyddiadau casineb, gellir ystyried eu gweithredoedd fel trosedd casineb.

Trosedd cyfeillio yw pan fydd rhywun yn cymryd arnynt eu bod yn ffrind i chi, ond maent yn gwneud pethau i gymryd mantais.  Gallai hyn gynnwys gofyn i chi am arian yn aml, neu eich cam-drin mewn ffyrdd eraill.

Mae Mencap wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol am droseddau casineb a throseddau cyfeillio, gan gynnwys canllawiau ynglŷn â sut i roi gwybod amdano, ac awgrymiadau ynglŷn â siarad â’r heddlu.

Mae’r unigolion sy’n darparu cynllun Mannau Diogel hefyd wedi creu adnoddau defnyddiol sy’n hawdd eu darllen am gydnabod a mynd i’r afael â ‘throsedd cyfeillio’.  Ar ôl i ni sefydlu ein holl Fannau Diogel, bydd yr adnoddau hyn ar gael ar draws Gogledd Cymru – felly cadwch lygad ar y gofod hwn!

Edrychwch ar y gwaith mae Dimensions wedi’i wneud gyda’u hymgyrch #ImWithSam, gan gynnwys y fideo yma am brofiadau pobl.

Diogelu

Ystyr diogelu yw amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth neu  esgeulustod ac addysgu’r rheiny o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.  Mae gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan yn nodi’r rolau a’r cyfrifoldebau sy’n ymwneud â diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gam-driniaeth ac esgeulustod.

Gallwch ddysgu mwy am weithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan yma.

Mae ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael i’w lawrlwytho yn awr drwy Apple App Store a Google Play Store.  Gellir hefyd eu gweld yn Gymraeg ar www.diogelu.cymru ac yn Saesneg ar www.safeguarding.wales

Teithio

Rydym yn gwybod y gall teithio’n annibynnol ar gludiant cyhoeddus beri pryder i bobl.

Crëwyd Cynllun Waled Oren i gynorthwyo pobl i ymdopi’n haws ar gludiant cyhoeddus.  Mae’r Waled Oren yn cynnwys pocedi plastig lle gallwch roi geiriau a lluniau.  Gellir dangos y rhain i staff cludiant cyhoeddus i gynorthwyo pobl i gyfathrebu eu hanghenion.

Mae hwn yn fideo defnyddiol sy’n cynnig nifer o awgrymiadau o ran cynllunio a mynd ar deithiau tren, gan gynnwys sut y gellir defnyddio’r Waled Oren.

Edrychwch ar wefan ASDinfoWales i gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gael waled oren.

Prosiectau Peilot

Hyfforddiant Teithio

Cynigir hyfforddiant teithio mewn rhai ardaloedd eisoes, ond eleni rydym yn uno gyda ‘TAPE Community Music and Film’ i greu a phrofi hyfforddiant teithio unigryw, gan ddefnyddio technoleg rhith-wirionedd.

Way2Be

Rydym hefyd yn profi’r defnydd o ap ffôn o’r enw Way2Be yn Sir y Fflint a Wrecsam.  Byddwn yn eich diweddaru ynglŷn â chynnydd y ddau!

Edrychwch ar y fideo hwn.