Hysbysiad Preifatrwydd
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fo Gogledd Cymru gyda’i Gilydd yn casglu eich data personol. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu fel rheolydd data ar gyfer pwrpas gwaith a gyflawnir gan Gogledd Cymru gyda’i Gilydd: Gwasanaethau di-dor ar gyfer pobl gydag Anableddau Dysgu.
Rydym wedi ymrwymo i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data, yn ogystal â’ch hawliau o ran cyfrinachedd a phreifatrwydd. Bydd Gogledd Cymru gyda’i Gilydd yn sicrhau bod y data personol y bydd yn ei gadw amdanoch yn gywir ac yn ddiogel er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol i chi.
Ni fyddwn yn cadw data amdanoch oni bai bod hynny’n cydymffurfio â’r gyfraith. Byddwn hefyd ond yn casglu’r data sy’n angenrheidiol a phan na fydd angen cadw’r data hwnnw, byddwn yn cael gwared arno mewn modd diogel.
Gellir gweld polisi preifatrwydd Sir y Fflint yma.
Pam ein bod ni angen eich data personol?
Rydym angen defnyddio peth o’r wybodaeth amdanoch i:
- Rheoli ymateb i’ch ymholiadau a darparu gwybodaeth yr ydych yn gofyn amdano.
- Hyfforddi a rheoli ein gweithwyr sy’n darparu’r gwasanaethau hynny
- Ymchwilio i unrhyw gwyn neu bryder sydd gennych am ein gwasanaethau
- Monitro ansawdd ein gwasanaethau
- Ymchwilio a chynllunio ar gyfer gwasanaethau newydd neu newidiadau i wasanaethau presennol
Mae’n rhaid i ni gael rheswm cyfreithiol dros brosesu eich data personol. Yn gyffredinol, rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol pan:
- Rydych chi, neu gynrychiolydd cyfreithiol, wedi rhoi caniatâd i wneud hynny
- Mae’n angenrheidiol i ddiogelu rhywun mewn argyfwng
- Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith
- Mae’n angenrheidiol ar gyfer pwrpas cyflogaeth
- Mae’n angenrheidiol i ddarparu gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol
- Mae’n angenrheidiol ar gyfer achosion cyfreithiol
- Mae er budd y cyhoedd a’r gymdeithas gyfan
- Mae’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd
- Mae’n angenrheidiol at ddibenion hanesyddol, ystadegol neu ymchwil
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth?
Mae gennym ystod o ffynonellau ar gyfer casglu gwybodaeth yr ydym yn ei ddarparu i ddinasyddion Pan fo gennym drefniadau sydd yn cynnwys cyswllt ag unigolion a gofalwyr, mae cytundeb bob amser mewn lle i sicrhau bod y sefydliadau hynny yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data.
Sut mae Gogledd Cymru gyda’i Gilydd yn cadw eich data personol yn ddiogel?
Mae Gogledd Cymru gyda’i Gilydd yn diogelu eich gwybodaeth bersonol rhag mynediad, defnydd neu ddatgeliad heb ei awdurdodi. Mae Gogledd Cymru gyda’i Gilydd yn diogelu’r data personol rydych yn ei ddarparu ar weinyddwyr cyfrifiadur mewn amgylchedd diogel rheoledig, wedi’i warchod rhag fynediad, defnydd neu ddatgeliad heb ei awdurdodi.
Byddwn efallai yn cadw eich data personol yn defnyddio darparwyr cwmwl o’r Undeb Ewropeaidd, ond dim ond pan fo trefniad prosesu data mewn lle sy’n cydymffurfio â rhwymedigaethau sy’n gyfwerth â rhai’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol.
Ewch i’n Tudalen Diogelu Data i weld gwybodaeth am hawliau unigol.
Bydd data yn cael ei gadw am hyd y rhaglen ac yn cael ei adolygu ar yr adeg hynny. Bydd y rhaglen yn dod i ben ar 28 Chwefror 2021.