Gwybodaeth Hygyrch
Gwybodaeth hygyrch yw gwybodaeth rydych chi’n ei deall. Mae’r hyn sy’n gwneud gwybodaeth yn hygyrch yn wahanol i wahanol bobl; does dim ateb sy’n gweddu i bawb gan fod anghenion pobl yn aml yn wahanol. Dyluniwyd a chrëwyd y wefan hon ar gyfer dinasyddion gydag anableddau dysgu.
Mae mwyafrif y dogfennau ar gael fel rhai Hawdd eu Deall, ond os oes angen dogfen arnoch nad yw ar gael fel un Hawdd ei Deall, neu os ydych yn cael problemau’n gweld, cael mynediad i neu ddefnyddio unrhyw rannau o’r wefan, cysylltwch â ni.
Mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd wedi ymrwymo i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl, heb ystyried technoleg na gallu. Rydym yn mynd ati i weithio gyda’n gilydd i wella hygyrchedd a defnyddioldeb ein gwefan ac yn cadw at nifer o’r safonau a’r canllawiau sydd ar gael wrth wneud hynny.
Mae’r wefan hon yn ymdrechu i gydymffurfio â lefel A Dwbl Consortiwm y World Wide Web (W3C) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1. Mae’r canllawiau hyn yn egluro sut i wneud cynnwys y we yn fwy hygyrch i bobl gydag anableddau. Bydd cydymffurfio â’r canllawiau hyn yn ei gwneud yn haws i bawb defnyddio’r we.
Crëwyd y safle hwn gan ddefnyddio cod sy’n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer HTML a CSS. Mae’r safle’n cael ei arddangos yn gywir ar borwyr cyfredol ac mae defnyddio cod HTML/CSS sy’n cydymffurfio â’r safonau yn golygu y bydd hefyd yn cael ei arddangos yn gywir gan borwyr yn y dyfodol.
Er bod Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn ymdrechu i gadw at y canllawiau a dderbynnir a safonau ar gyfer hygyrchedd a defnyddioldeb, nid oes bob amser modd gwneud hynny ar bob rhan o’r wefan.
Rydym bob amser yn ceisio canfod datrysiadau a fydd yn dod â phob adran o’r safle i’r un lefel cyffredinol o hygyrchedd gwe. Yn y cyfamser, os byddwch chi’n profi unrhyw anhawster wrth gael mynediad i wefan Gogledd Cymru Gyda’n gilydd, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Botwm hygyrchedd
Mae botwm du ar gornel uchaf y sgrin ar y dde sy’n caniatáu addasiadau i faint y Ffont a hefyd i Liw / Cyferbynnedd y wefan.
Newid Maint y Ffont
Gallwch addasu maint ffont drwy glicio ar y botwm + neu – yn dibynnu os hoffech chi gael ffont mwy neu lai fel y dangosir uchod.
Dewis Lliw
Gallwch addasu cyferbynnedd y wefan drwy glicio ar y botwm ‘dewis lliw’ ac yna dewis cynllun lliwiau o’r palet lliw.
Ailosod (Clirio Cwcis)
Mae’r botwm ‘ailosod – clirio cwcis’ yn ailosod y cynllun lliw i’r safle diofyn ond bydd yn clirio cwcis eich porwr gwe. Os nad ydych yn sicr beth yw cwcis, yna cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Botwm yn ôl i’r brig
Wrth sgrolio i lawr ar wefan, yng nghornel isaf eich sgrin ar y dde fe welwch chi saeth du. Bydd y botwm yn mynd â chi yn ôl i frig y dudalen pan fyddwch yn ei bwyso.