Taliadau Uniongyrchol
Gall taliadau uniongyrchol fod yn ffordd dda i bobl ag anableddau dysgu a’u rhieni/gofalwyr gael mwy o ddewis a rheolaeth gyda’u gofal a chefnogaeth.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n ymdrin â defnydd hyblyg o Daliadau Uniongyrchol yn ystod y pandemig Cornanavirus. Dilynwch y ddolen i weld y canllawiau hyn.
Os byddai gwasanaeth neu weithgaredd yn helpu i’ch cefnogi i gyflawni eich canlyniadau lles, mae’n bosibl y gallech ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu amdanynt.
Os ydych yn gymwys ar gyfer taliadau uniongyrchol mae yna gefnogaeth ar gael i’ch helpu i’w defnyddio yn y ffordd orau i chi. Mae’r gefnogaeth hon yn edrych ychydig yn wahanol mewn ardaloedd gwahanol, felly byddwch angen siarad gyda’ch gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr cefnogol am y cymorth sydd ar gael i chi.
Mae llawer o bobl yn defnyddio eu taliadau uniongyrchol i dalu am Gymhorthydd Personol. Eleni, byddwn yn gweithio gyda Thîm Taliadau Uniongyrchol Cyngor Sir y Fflint i greu porth i’w gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i’r Cymhorthydd Personol mwyaf addas iddyn nhw.
Gellir defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer llawer mwy na Chymhorthydd Personol. Mae Anabledd Cymru wedi creu’r canllaw defnyddiol hwn, sy’n cynnwys enghreifftiau o ffyrdd gwahanol o reoli a gwario taliadau uniongyrchol. Efallai y bydd rhai pobl yn dewis rhoi eu taliadau uniongyrchol mewn cronfa.
Mae canllaw Anabledd Cymru yn egluro sut y gallwch wneud hyn fel rhan o sefydlu cyd-fenter – ond nid dyma’r unig ffordd y gallwch gynnwys eich taliadau uniongyrchol mewn cronfa gyda phobl eraill.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llunio canllaw defnyddiol ar gyfer taliadau uniongyrchol mewn cronfa, sy’n cynnwys cyngor, templedi ac enghreifftiau cadarnhaol.
Mae Cyd-fenter Cymru wedi llunio canllawiau defnyddiol ar gyfer taliadau uniongyrchol, gan gynnwys canllaw darllen hawdd ei ddeall ar gyfer taliadau uniongyrchol, taflen ffeithiau am gydfentrau a thaflen ffeithiau am sut y gall Cymorthyddion Personol ddod ynghyd i ffurfio cydfenter.
Eleni byddwn yn cynnal peilot gweithdai a hyfforddiant ‘broceriaeth cymorth’ gyda’r Rhwydwaith Broceriaeth Cenedlaethol.
Taliadau uniongyrchol a galluedd meddyliol
Newidiodd deddfwriaeth yn 2011 i alluogi pobl â diffyg galluedd meddyliol i gytuno i gael budd o daliadau uniongyrchol i ddiwallu eu hanghenion a aseswyd a chanlyniadau. Mae hyn yn bosibl drwy gyflwyno ‘unigolyn addas’ yn unig. Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw penodi unigolyn addas ac yn amlach na dim mae’n aelod o’r teulu y gellir ymddiried ynddo. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llunio’r canllaw defnyddiol hwn ar unigolion addas.
Yn Lloegr mae yna sefydliad o’r enw ‘Home Care Direct’ sy’n gofalu am y statws cyflogaeth, gweinyddu a rheoli derbynwyr taliad uniongyrchol â diffyg galluedd meddyliol. Gweler ynghlwm wybodaeth ddefnyddiol ar sut mae’r sefydliad hwn yn gweithio.
–‘Home Care Direct’ – Dull Newydd
–‘Home Care Direct’ – Dewis eich CP eich hun
–‘Home Care Direct’ – Hyfforddiant wedi’i bersonoli
Fforwm Taliadau Uniongyrchol Gogledd Cymru
Prosiectau Peilot
Gweithdai Broceriaeth Cefnogi
Gweithdai / hyfforddiant i helpu unigolion gan gynnwys dinasyddion a gweithwyr proffesiynol i fod yn frocerwyr cefnogi. Gall Brocerwyr Cefnogi helpu pobl i ddod o hyd i’r gefnogaeth/gweithgaredd/adnodd sy’n iawn iddyn nhw, gan ddefnyddio eu taliadau uniongyrchol.
Porth CP
Bydd y Porth Cymhorthydd Personol yn gwneud dod o hyd i gymhorthydd personol neu gyflogwr yn haws ac yn fwy hyblyg. Nid asiantaeth fydd y Porth Cymhorthydd Personol, ond rhestr o Gymhorthwyr Personol sydd ar gael ar gyfer gwaith a gwybodaeth ddefnyddiol am ddod o hyd a recriwtio cymhorthwyr personol. Bydd y system hefyd yn cynnwys hysbysebion gan gyflogwyr sy’n dymuno recriwtio CP.
E-ddysgu cymhorthydd personol
Mae’r prosiect hwn yn anelu i weithio gyda chwmni e-ddysgu gofal cymdeithasol arbenigol i ddylunio ystod o fodiwlau e-ddysgu ar gyfer cymorth personol a gwneud y rhain ar gael i’r gweithle. Bydd y modiwlau yn cael eu dylunio’n benodol i ddarparu lefel Sylfaen o wybodaeth a byddai’n cael ei gyflwyno i holl gymorthyddion personol newydd fel rhan o’u sesiwn sefydlu.