Cymryd Rhan
Pam cymryd rhan?
Mae cydweithio mewn partneriaeth go iawn (cyd-gynhyrchu) yn bwysig iawn i waith y Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu.
Mae cyd-gynhyrchu yn ddull ar sail asedau i wasanaethau cyhoeddus sy’n galluogi unigolion sy’n darparu a derbyn gwasanaethau i rannu grym a chyfrifoldeb a chydweithio mewn perthnasau cyfartal, dwyochrog a gofalgar. Mae’n creu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gymorth pan fo’r angen, a chyfrannu at newid cymdeithasol (Cyd-gynhyrchu Cymru). Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am gyd-gynhyrchu.
Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y gwaith yr ydym yn ei wneud. Gall digwyddiadau a chyfarfodydd fod yn ffordd wych i ni gwrdd â llawer o bobl a chlywed eu safbwyntiau.
Gwirfoddoli
Hyfforddiant
Sparc - Hyfforddiant Perthnasoedd i oedolion
Gweithdy 1 - Perthnasoedd diogel a iach
4ydd/6ed/12fed o Dachwedd 2020
Sparc - Hyfforddiant Perthnasoedd i oedolion
Gweithdy 2 - Rhyw a Rhywioldeb
18/19/20fed o Dachwedd 2020
Sparc - Hyfforddiant Perthnasoedd i oedolion
Gweithdy 3 - Bod yn ddiogel yn ystod rhyw a pherthnasoedd
25/26/27 o Dachwedd 2020
Sparc - Hyfforddiant Perthnasoedd i oedolion
Hyfforddiant i Ymarferwyr
3ydd ac 11eg o Dachwedd 2020
Digwyddiadau
Digwyddiad Darparwyr Cymorth
14 Hydref 2019
Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno
Grwpiau a Chyfarfodydd
Rydym wedi sefydlu llawer o grwpiau gwahanol ac mae gennym lawer iawn o gyfarfodydd gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r grwpiau hyn, ac i wybod sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â ni.