Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Gwerthoedd

Gwerthoedd yw’r credoau a’r farn sydd gan bobl am beth sy’n gywir neu’n anghywir, beth sy’n bwysig mewn bywyd, a sut rydym yn credu y dylem ymddwyn. Maen nhw’n berthnasol i bob agwedd ar fywyd ac maen nhw’n dylanwadu sut mae unigolyn yn ymddwyn mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Mae’r Tîm Trawsnewid Anableddau Dysgu wedi llunio grŵp o bobl o wahanol gefndiroedd i weithio ar gyd-gynhyrchu rhai gwerthoedd ar gyfer gweithlu Gogledd Cymru. Mae’r graffig isod yn dangos canlyniad y gwaith hwn.

Ydych chi’n credu bod y gwerthoedd cywir gennych i weithio ym maes Gofal Cymdeithasol? Cymerwch ran yn y cwis ar-lein hwn yn rhad ac am ddim.

Rydym am gefnogi sefydliadau a staff i ganolbwyntio ar reolaeth a recriwtio sy’n seiliedig ar werthoedd. Cymerwch gip ar ein canllaw ymarferol ar recriwtio ar sail gwerthoedd.

Edrychwch ar broses recriwtio Cyngor Wrecsam ar gyfer staff cymorth, i weld recriwtio sy’n seiliedig ar werthoedd ar waith!

Prosiect Peilot

Fideo Gwerthoedd ac Ymddygiadau

Gan weithio gyda cherddoriaeth a ffilm TAPE, byddwn yn cyd-gynhyrchu fideo i godi ymwybyddiaeth am werthoedd ac ymddygiad mae pobl ag anableddau dysgu yn eu disgwyl gan y bobl sy’n eu cefnogi.

Mae’r gwaith yn dechrau ym mis Ebrill 2020, a chaiff y fideo derfynol ei rhannu yma!