Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Coronafeirws​

Ymateb i'r Coronafeirws

O ddeall canllawiau presennol y Llywodraeth ynghylch cadw pellter cymdeithasol yn ystod pandemig y Coronafeirws, mae risg gwirioneddol i bobl ag anableddau dysgu a’u gofalwyr o fod yn gynyddol unig ac wedi’i hynysu. Efallai ni fydd lawer o gyfle ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a chorfforol, a bydd llai o ffyrdd i bobl gadw’n brysur. Gall hyn gael effaith ar eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl, ac i ofalwyr, yn enwedig gofalwyr aelodau hŷn o’r teulu, gall fod yn gyfnod pryderus a blinderus.

Rydym eisoes yn gwybod bod rhai unigolion a sefydliadau yn edrych ar ffyrdd gwahanol i bobl gydag anableddau dysgu gadw mewn cysylltiad gyda’u ffrindiau a’u cyfoedion, cael hwyl, cadw’n brysur a chynnal iechyd a lles da. Mae sawl un o’r rhain yn cael eu gwneud drwy ddefnydd technoleg a’r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Apiau. Mae’r rhai yn Apiau sydd wedi’u dylunio’n arbennig, ond mewn rhai achosion, mae’n cynnwys gwneud defnydd da o bethau sydd yno’n barod.

Hoffwn gefnogi a rhannu enghreifftiau o’r pethau cadarnhaol y mae pobl yn ei wneud i alluogi pobl gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd i gadw’n iach ac yn hapus yn ystod y pandemig. Gall hyn gynnwys corau a grwpiau cerddoriaeth rhithiol, clybiau a grwpiau cefnogaeth rhithiol, neu defnyddio technoleg i ddysgu, cadw’n brysur neu bod yn iach.

Os ydych chi’n gwybod am bethau da sy’n digwydd i helpu pobl gydag anableddau dysgu i fod yn hapus ac yn iach, yn lleol neu’n genedlaethol, neu os oes gennych syniad ar hyn yr hoffech ei rannu gyda ni, anfonwch y manylion. Os yw’n rhywbeth y gellir ei rannu, byddwn yn cylchredu’r wybodaeth ar draws y rhanbarth. Cyfeiriad ein tîm yw learning.disability.transformation@flintshire.gov.uk

Yn ogystal â hynny, os oes gennych syniadau neu awgrymiadau ynghylch hyn, sydd angen ei ariannu, cysylltwch â’r tîm ar yr un cyfeiriad. Anfonwch amlinelliad cryno i ni, a byddwn yn cysylltu â chi’n unigol. ‘Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd’ ydym ni, a gyda’n gilydd byddwn yn dod o hyd i ffyrdd i ymateb i’r heriau sy’n cael eu hwynebu gan bobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Llawer o ddiolch, Kathryn Whitfield, Rheolwr Rhaglen

Dogfennau

Gwybodaeth am y Coronafeirws – Hawdd Ei Ddeall

Ymdopi gydag Ynysu

Symbolau’r Coronafeirws

Gwybodaeth Hygyrch Covid19

Yr Ysbyty a’r Coronafeirws

Hunan-ynysu – Hawdd Ei Ddeall

Tu Hwnt i Eiriau – Cwffio’r Feirws

Fferyllfa – Easy Read

SCIE: COVID-19

Gadael y cartref i wneud ymarfer corff: canllawiau

Fideos Gofod Siarad