Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Eiriolaeth

Mae eiriolaeth yn ddull pwysig iawn o sicrhau y gall pobl gydag anableddau dysgu, a allai gael trafferth gyda chyfathrebu, gael llais a rheolaeth.  Mae nifer o wahanol fathau o eiriolaeth.  Mae Rhaglen y Golden Thread wedi llunio’r llun defnyddiol hwn – enfys eiriolaeth – i ddangos y gwahanol fathau.

Gallwch gysylltu â’ch Cyngor lleol i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o eiriolaeth sydd ar gael yn eich ardal chi, gan gynnwys grwpiau hunan-eiriolaeth.

Yma gallwch ddarllen strategaeth ar y cyd Gwent ar gyfer cynllunio ac ariannu gwasanaethau eiriolaeth.  Mae’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am sut maent yn ceisio sicrhau:

-Fod gan bawb fynediad cyfartal at y mathau o eiriolaeth sydd fwyaf addas iddynt

-Bod yr holl wasanaethau eiriolaeth o ansawdd uchel

-Bod yr holl wasanaethau eiriolaeth yn cefnogi cleientiaid yn y dull mwyaf effeithiol.

-Bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o eiriolaeth yn gwella ymysg staff a’r cyhoedd