Cwrdd â’r Tîm
Angela Wilson
I have worked with people with Learning disabilities for 35 years, firstly as a Support Worker, a Family Support Officer, a Community Living Team Manager and my last post was as a Disability Team Manager. I was very fortunate to begin my career when the All Wales Strategy was coming into being, I believe this North Wales Learning Disability Strategy leads on from the progress made. Now we have what people with Learning Disabilities themselves have told us what is important to them and I am very lucky to be part of this team to help realise these aims. I have stepped into Kathryn’s shoes – big shoes to follow I know – but I will give it my best and together we can make a difference – Thank you.
**awaiting translation **
Steve Brown
Rwyf wedi treulio bron 30 mlynedd yn y Gwasanaethau Anabledd Dysgu, gan gynnwys 17 mlynedd yma yng Ngogledd Cymru gyda Chyngor Sir y Fflint. Mae gen i radd mewn Anableddau Dysgu o Brifysgol Manceinion, ac rwyf wedi gwneud llawer o waith ym maes ‘Cefnogaeth Ymddygiadol Gadarnhaol’. Mae hyn yn golygu fy mod wedi gallu gweithio gyda phobl ag anghenion mwy cymhleth, i’w helpu i gael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt yn eu cymuned leol. Yn y Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu, bydda i’n gweithio i sicrhau bod gan bobl y llety a’r gefnogaeth gywir i weddu i’w hanghenion. Mae hyn yn golygu gweithio gyda llawer o wahanol bobl ar draws Gogledd Cymru i ganfod beth sy’n gweithio’n dda a sut mae angen i bethau newid yn y dyfodol.
Kim Killow
Yn ddiweddar, symudais i Ogledd Cymru o’r Alban, ac rwyf wrth fy modd o fod yn gweithio gyda’r Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu. Yn ôl yn yr Alban, roeddwn yn swyddog datblygu cynhwysiant am dros 20 mlynedd, gan weithio gyda chymunedau i geisio mynd i’r afael â’r rhwystrau a allai wynebu pobl wrth geisio cyflawni eu potensial llawn. Fy rôl nawr yw gweithio gydag unigolion, teuluoedd a gwasanaethau i geisio sicrhau bod profiadau pobl o ofal a chefnogaeth gan Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn fwy cydgysylltiedig a syml. Bydd hyn yn golygu rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o weithio, ac edrych ar sut gallai gwasanaethau gydweithio’n well pan fydd pobl ar wahanol gamau o’u bywydau. Fy nod yw gwneud gwahaniaeth real i ansawdd bywyd plant ac oedolion ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.
Mark John-Williams
Rwyf wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ers 33 o flynyddoedd, ar ôl dechrau fel rhan o’r Rhaglen Strategaeth Cymru Gyfan yn 1986. Rwyf wedi defnyddio Cynllunio Person Ganolog drwy gydol fy ngyrfa, wedi arwain Tîm Cyfranogi, rheoli prosiect trawsnewid llwyddiannus, cyd-arwain rhaglen arweinyddiaeth i bobl ag anableddau dysgu, ac yn fwy diweddar roeddwn yn Gyfarwyddwr Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru. Rwy’n angerddol am wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Wrecsam i wireddu cynlluniau’r prosiect.
Paul Mazurek
Mae gennyf dros 34 mlynedd o brofiad o weithio o fewn maes Anableddau Dysgu. Dros y 15 mlynedd ddiwethaf rwyf wedi bod yn Ymarferwr Gofal Cymdeithasol fel rhan o Dîm Anableddau Cymhleth Sir Ddinbych, sef y Tîm Anableddau Dysgu gynt. Rwyf wedi datblygu gwybodaeth ymarferol a phrofiad da o aml-asiantaethau a disgyblaethau cysylltiedig ag Anableddau Dysgu, ac wedi hyrwyddo sawl maes gwaith gan gynnwys Teleofal a Thaliadau Uniongyrchol. Byddaf yn cwmpasu’r defnydd o gymwysiadau presennol a’r angen am gymwysiadau newydd yn ogystal ag ymchwilio datblygiad cymwysiadau sgrinio iechyd a theleiechyd. Rwyf yn gyffrous i fod yn rhan o’r Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu, gan symud y strategaeth Anabledd Dysgu ymlaen ar gyfer y dyfodol i hyrwyddo a gwella bywydau pobl sydd ag Anableddau Dysgu.
Jeni Andrews
Rwy’n gweithio fel Swyddog Cyswllt ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych. Mae hyn yn golygu fy mod i’n helpu Conwy a Sir Ddinbych i newid (trawsnewid) y ffordd y caiff pobl ag anableddau dysgu eu cefnogi. Rwyf wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd ers 25 mlynedd. Roeddwn i’n arfer helpu pobl i hawlio budd-daliadau. Yna bues i’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd yn Sir Ddinbych i gynllunio sut dylai gwasanaethau cefnogaeth weithredu. Rwy’n awyddus iawn i helpu i wella cefnogaeth i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru, a sicrhau eu bod yn byw bywyd gwych. Rwy’n gobeithio y bydd y Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu yn helpu i wneud newidiadau cadarnhaol i’r ffordd mae pobl yn gweld pobl ag anableddau dysgu.
Sioned Williams
Mae gen i brofiad helaeth o weithio gydag unigolion ag anableddau dysgu a’u teuluoedd/gofalwyr yng Ngwynedd ers sawl blwyddyn. Rwy’n falch o fod yn rhan o dîm Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd ac rwy’n angerddol am wasanaethau, pobl ag anabledd dysgu a’u rhieni/gofalwyr yn cydweithio mewn partneriaeth i weddnewid gwasanaethau fel bod plant ac oedolion ag anableddau dysgu yn cael bywyd gwell. Bydd fy ngwaith yn cynnwys gweithio gyda’r cyhoedd a’r trydydd sector, teuluoedd ac unigolion i nodi enghreifftiau o arfer da a’i rhannu ar draws y rhanbarth a chefnogi ardaloedd i weddnewid gwasanaethau.
Helen Dransfield
Rwyf wedi gweithio ym maes Cymorth Busnes yng Ngwasanaethau Cymdeithasol ers dros 12 mlynedd. Rwy’n edrych ymlaen at weithio fel rhan o’r tîm a’r heriau cyffrous y bydd y rôl yn eu cynnig ei gynnig.
Kathryn Whitfield
Rwyf wedi gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ers 28 mlynedd, i ddechrau fel Anogwr Swyddi ac wedyn fel Gweithiwr Cymdeithasol a Rheolwr Tîm. Pan ddechreuais i, roedd Strategaeth Cymru Gyfan yn mynd rhagddi. Mae gennym strategaeth newydd bellach, sef Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru. Mae pobl ag Anableddau Dysgu wedi dweud wrthym beth sy’n bwysig iddyn nhw. Maen nhw am gael cartrefi, perthnasoedd a swyddi da, iechyd corfforol a meddyliol da, a’r cyfle i fod yn rhan o’u cymunedau. Rwy’n lwcus iawn o fod yn rhan o’r tîm a’r gymuned ehangach sydd â’r gwaith o ailedrych ar yr hawliau hyn a’u gwneud yn rhan annatod o’n gwaith, a sicrhau datrysiadau gyda’n gilydd.
Update: Kathryn has now returned to her substantive post with Denbighshire County Council. We thank Kathryn for all her hard work on leading the project and wish her all the best.
Liana Duffy
Gan fod gen i gefndir ym maes digartrefedd, mae cefnogi pobl i fyw bywyd da a llawn yn bwysig iawn i mi. Rwy’n gyffrous iawn o fod yn rhan o’r Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu, gan ganolbwyntio ar gymunedau a newid diwylliant. Bydda i’n gweithio gyda llawer o wahanol bobl ar draws Gogledd Cymru, i geisio creu rhagor o gyfleoedd i bobl ag anableddau dysgu gael y math o berthnasoedd, gweithgareddau a chyfleoedd gwaith sydd eu heisiau arnynt.
Paul Hosker
Rwyf wedi gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am dros bedwardeg pump o flynyddoedd. Rwyf wedi cymhwyso fel nyrs Gyffredinol, nyrs Iechyd Meddwl a nyrs Anableddau Dysgu ac mae gen i brofiad yn y meysydd hynny. Rwyf wedi helpu i ddatblygu a rheoli Gwasanaethau Anabledd Dysgu yng Ngogledd Cymru ers y 1980au. Rwyf wrth fy modd o ddatblygu rhannau o’r strategaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles. Yn benodol – cydweithio â’r Tîm Cyswllt Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phobl eraill fel bod mwy o ddinasyddion yn cael eu gwiriad iechyd blynyddol a’u profion sgrinio iechyd cenedlaethol. Rwy’n credu’n gryf y dylai dinasyddion a theuluoedd gael gwybodaeth sy’n eu helpu i wneud dewisiadau da am eu lles corfforol ac emosiynol er mwyn iddynt fyw bywydau iach a hapus.
Edit : Paul has now retired. We wish him all the best.
Sian Croston
Rwyf wrth fy modd o ymuno â Phrosiect Trawsnewid Gogledd Cymru gan arwain ar Ddatblygu’r Gweithlu. Rwy’n bwriadu nodi a rhannu arfer da trwy’r arweinwyr ffrwd waith ac ardal yn ogystal â chreu cysylltiadau gydag arweinwyr gweithlu rhanbarthol, darparwyr trydydd sector i weithio tuag at fodelau cynaliadwy o ddatblygu’r gweithlu. Mae angen codi proffil cyffredinol a hawliau pobl gydag Anableddau Dysgu o fewn y gymuned ehangach a’r gweithlu cyffredinol. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n angerddol dros ei ddatblygu dros gyfnod y prosiect. Byddaf hefyd yn nodi a hyrwyddo profion sgrinio iechyd sydd ar gael a sicrhau bod gwybodaeth hygyrch o safon ar gael a’i bod yn cael ei rhannu.
Edit: Sian has now returned to her substantive post. Check out the work she did and has left to used as a resource on our Workforce pages.
Beverly Futia
Rwy’n rheolwr prosiect a chyfrifydd cymwys gyda 10 mlynedd o brofiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf wedi treulio’r 4 mlynedd diwethaf yn gweithio ar draws y wlad, gan gefnogi prosiectau ail-ddylunio gwasanaethau mewn ymateb i ganllawiau cenedlaethol a thoriadau i gyllidebau. Bydda i’n canolbwyntio ar daliadau uniongyrchol, cyfleoedd i wirfoddoli a chyfleoedd gwaith a hefyd eiriolaeth gan fy mod yn gweithio gyda phobl a sefydliadau ar draws Sir y Fflint.
Edit: Bev has now left our team. We wish her all the best in her new role.