Cymryd Risg Cadarnhaol
Cymryd risgiau cadarnhaol, a chefnogaeth yn seiliedig ar gryfderau
Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn golygu hawliau’r unigolion i wneud eu penderfyniadau eu hunain, a rôl yr unigolion sy’n eu cefnogi i sicrhau y gallant wneud y penderfyniadau hyn yn ddiogel. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llunio canllaw defnyddiol yn egluro cymryd risgiau cadarnhaol.
Mae Gwasanaethau Anabledd Dysgu Cumbria hefyd wedi datblygu polisi hawdd ei ddarllen am gymryd risgiau cadarnhaol, y gallwch ei weld yma.
Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn faes pwysig wrth drafod rhyw a pherthnasoedd. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Mae cefnogaeth yn seiliedig ar gryfderau yn ymwneud â chymryd risgiau cadarnhaol, oherwydd mae’n canolbwyntio ar yr elfennau cadarnhaol, nid canolbwyntio ar yr hyn na allant ei wneud ond yr hyn y maent yn gallu ei wneud.
Mae’r fideo hwn yn egluro mwy am ystyr dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau, a pham eu bod yn bwysig.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi llunio olwyn adnodd i gefnogi staff i gael sgyrsiau a chynllunio cefnogaeth gyda phobl mewn modd sy’n canolbwyntio ar eu cryfderau. Mae hyn wir wedi cynorthwyo i newid sut mae pobl yn meddwl, a chymryd mwy o risgiau cadarnhaol.
Er enghraifft, ers iddynt ddefnyddio’r olwyn adnodd, mae mwy o staff gwaith cymdeithasol wedi bod yn cefnogi pobl gydag anableddau dysgu i dderbyn mwy o gefnogaeth cyflogadwyedd ‘prif ffrwd’ nag yr oeddent yn flaenorol.
Prosiect Peilot
Caledwedd Technolegol
Nod y cynllun peilot / prosiect fydd cyflwyno technoleg i bobl, i nodi beth sydd ar gael a chysylltu’r dechnoleg gyda nodau a chanlyniadau pobl. Bydd yn ceisio dangos sut y gellir defnyddio technoleg er mwyn i bobl fod yn fwy annibynnol a chefnogi galluogi risg yn y cartref ac yn y gymuned.