Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Ffrindiau, teulu a pherthnasoedd

Mae cynnal perthnasau â phobl eraill yn bwysig iawn i’n hiechyd a’n lles. Dim ond 3% o bobl ag anableddau dysgu sy’n cydfyw fel cwpl, o gymharu â 70% o’r boblogaeth gyffredinol. Nid yw hyn yn ddigon da.  Gall cwrdd â rhywun arbennig fod yn anodd ac felly efallai y bydd rhai unigolion angen cymorth.

Deall a mynd i’r afael â rhwystrau

Rydym yn gwybod y gall pobl ag anableddau dysgu wynebu llawer iawn o rwystrau wrth geisio cwrdd â phobl newydd a chael y perthnasau y maent eu heisiau.

Mae prosiect ‘Ein Rhwydweithiau Cymdeithasol’ Mencap yn gweithio i gasglu straeon (‘hanesion ar lafar’) gan bobl ag anableddau dysgu, am eu profiadau o gyfeillgarwch a pherthnasau agos.

Cysylltwch â Mencap os ydych eisiau dysgu mwy, ac efallai rhannu eich hanes chi.

Rydym yn gwybod y gall peidio â chael y rhyddid i fynd allan a chymdeithasu fod yn rwystr mawr i bobl ag anableddau dysgu wrth geisio cwrdd â ffrindiau newydd neu bartner.

Hyblygrwydd cefnogaeth

Mae Luv2MeetU yn asiantaeth cyfeillgarwch a pherthnasau sy’n cynorthwyo unigolion ag anableddau dysgu neu awtistiaeth dros 18 mlwydd oed. Mae’n cefnogi pobl i wneud ffrindiau, rhannu diddordebau a datblygu perthnasau.

Perthnasau a Chanlyn

Mae’r Ymgyrch ‘Stay Up Late’ yn ymwneud â gwneud cymorth yn fwy hyblyg, er mwyn i bobl ag anableddau dysgu allu byw’r bywydau y maent eu heisiau – yn cynnwys aros yn effro’n hwyr wrth gwrs!

Rhywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd

Fel pawb arall, mae unigolion ag anableddau dysgu yn fodau rhywiol, gyda hawliau rhywiol a  hunaniaethau rhywiol a rhyw gwahanol. Cliciwch y blwch i gael mwy o wybodaeth am y pwnc hwn.

Adnoddau

Mae angen i bobl ag anableddau dysgu, eu rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol allu cael mynediad at y wybodaeth a’r cyngor cywir er mwyn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn iach. Cliciwch y blwch am wybodaeth ac adnoddau defnyddiol.