Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Bod yn iach

Mae cadw’n iach yn feddyliol ac yn gorfforol yn bwysig i ni gyd. Gall pobl gydag anableddau dysgu wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael y diagnosis a’r gofal iechyd maent ei angen.

Gwiriadau Iechyd a Sgrinio Blynyddol

Mae’r Rhaglen Adolygu Marwolaethau Anableddau Dysgu yn astudiaeth gyfredol sy’n archwilio achosion marwolaeth unigolion gydag anableddau dysgu. Yn ôl adroddiad 2018 (2017-2018), mae pobl gydag anableddau dysgu yn marw yn ieuengach o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Mae’r wybodaeth ganlynol yn dangos cyfartaledd oedran marwolaeth unigolyn gydag anabledd dysgu o’i gymharu â’r rhai sydd heb anabledd dysgu:

Mae nifer o’r marwolaethau cynnar hyn oherwydd, yn aml mae pobl gydag anableddau dysgu yn profi mynediad gwael i wasanaethau iechyd.

Mae Gwiriadau Iechyd Blynyddol a Sgrinio Iechyd Cenedlaethol yn chwarae rhan bwysig er mwyn canfod a thrin/rheoli gwaeledd neu glefyd yn gynnar. Mae sicrhau bod gan ddinasyddion fynediad at y cyfleoedd hyn yn flaenoriaeth.

Gosododd Lywodraeth Cymru darged o 75% mewn Gwiriadau Iechyd Blynyddol. Mae gan Ogledd Cymru gyfartaledd cyfredol o 54%. Mae gan Ynys Môn a Gwynedd gyfartaledd sy’n agosach at 14%. Mae Ynys Môn wedi cael ei dargedu i ddod o hyd i ffyrdd o wella’r nifer o bobl sy’n derbyn gwiriadau iechyd. Bydd bob meddyg teulu wedi derbyn ymweliad ac wedi cael cynnig cymorth neu gyngor.

Dull newydd eleni yw cynnig gwybodaeth a chyngor i’r rhai sydd â hawl wiriad iechyd blynyddol cyntaf yn 18 oed. Mae hyn oherwydd ein bod yn credu os yw’r gwiriad iechyd cyntaf yn mynd yn dda, ar ôl gadael gwasanaethau plant, gallai annog pobl i weld gwerth mewn derbyn gwiriad iechyd a sgriniad iechyd yn y dyfodol. Bydd Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Sylfaenol a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agosach â’i gilydd. Mae hyn yn cynnwys rhaglen beilot ar Ynys Môn, yn ogystal â darparu dau ddigwyddiad ar y cyd yn y Dwyrain a’r Gorllewin a fydd yn dod â dinasyddion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ynghyd.

Gwneud Addasiadau Rhesymol

Gofalwch am eich iechyd Gogledd Cymru

Ewch i’n gwefan ‘Gofalwch am eich iechyd Gogledd Cymru’ sydd yn darparu gwybodaeth iechyd hygyrch ac o ansawdd da mewn un lle. Mae hyn yn seiliedig ar waith arferion da yn Ymddiriedolaeth y GIG yn Leeds a Swydd Efrog sydd wedi cael ei gwblhau.

Mae grŵp cyd-gynhyrchu yn cael ei sefydlu i adolygu holl ddogfennaeth gwefan er mwyn sicrhau ei fod mor hygyrch â phosibl. Byddwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth hygyrch, perthnasol a hawdd ei ddeall o Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y wefan hon.

Anableddau Dysgu a Dementia

Mae pobl gydag anableddau dysgu, yn arbennig pobl gyda Syndrom Downs, mewn mwy o berygl o ddatblygu dementia yn gynnar. Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael am hyn, a sut y gellir cynorthwyo person gydag anableddau dysgu a dementia i fyw’n dda.

Dyma rai esiamplau:

  • Anableddau Dysgu a Dementia, Cymdeithas Alzheimer’s
  • Dementia a phobl gydag anableddau dysgu: gwneud addasiadau rhesymol – canllaw
  • Alzheimer’s, Cymdeithas Syndrom Downs

Ynghyd â chydweithwyr iechyd o wasanaethau anableddau dysgu oedolion Sir Ddinbych a Chonwy, byddwn yn cynnal Digwyddiad Rhannu Arferion ar 24 Mawrth 2020. Bydd y digwyddiad hwn yn dod â chydweithwyr iechyd ar draws y rhanbarth ynghyd er mwyn rhannu arferion am ganfod yn gynnar, asesu a chefnogi oedolion gydag anableddau dysgu. Bydd adroddiad llawn o’r gweithdy, ynghyd ag arferion da ymhob maes yn cael ei rannu ar ôl y digwyddiad.

Prosiect Peilot

Fideos Iechyd

Eleni, byddwn yn gweithio gyda Cherddoriaeth a Ffilm Cymuned TAPE i gyd-gynhyrchu ffilmiau am gadw’n iach yn feddyliol ac yn gorfforol. Bydd y ffilmiau hyn yn cael eu defnyddio gan y Tîm Cysylltu Iechyd, ac yn cael eu rhannu gyda’r cyhoedd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi’n fuan!