Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Rhywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd

Mae stigma, a rhagdybiaeth am rywioldeb a hunaniaeth rywiol pobl  ag anableddau dysgu hefyd yn broblemau mawr.  Fel pawb arall, mae pobl ag anableddau dysgu yn fodau rhywiol, gyda hawliau rhywiol a hunaniaethau rhywiol a rhyw gwahanol.

Mae Mencap wedi datblygu Datganiad Cenhadaeth am gefnogi’r hawliau hyn a herio agweddau. 

Gweler y fideo sydd wedi ennill gwobrau gan Grŵp SWS Wrecsam – ‘Rydym yn gadael ein label wrth y drws’ – ble maent yn siarad am hunaniaeth rywiol a hunaniaeth o ran rhywedd, a sut mae gan bawb yr hawl i fod pwy ydynt.

Mae gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru yn cynnal sesiynau galw heibio misol yn Sir Ddinbych i bobl sy’n byw gydag anableddau dysgu sy’n LGBTQ+.  Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau’r dyfodol, gallwch gysylltu ag enquiries@nwaaa.co.uk / 01248 670852.

Gallwch gael golwg ar y canllaw LGBTQ+ Hanfodol hwn i Ogledd Cymru, i gael mwy o wybodaeth am wasanaethau cymorth lleol, grwpiau, gweithgareddau a digwyddiadau.

Mae’r Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu hefyd ar grŵp LGBTQ+ cenedlaethol hefyd, i sicrhau bod gan bobl LGBTQ+ lais cryf yn ein gwaith, a’n bod yn trefnu ein cefnogaeth ar y cyd, yn seiliedig ar arfer gorau.