Luv2MeetU
Mae Luv2MeetU yn asiantaeth dod o hyd i gariad i bobl ag anableddau dysgu neu awtistiaeth 18 oed a hŷn. Mae’n cefnogi pobl i wneud ffrindiau, rhannu diddordebau a datblygu perthynas. Mae Luv2MeetU yn cefnogi pobl i fwynhau ystod o weithgareddau, ac maent yn trefnu digwyddiadau mae’r aelodau yn dymuno eu gwneud yn unig.
Yn ogystal â gweithgareddau a digwyddiadau grŵp, maent yn cynnig gwasanaeth dod o hyd i gariad ar gyfer aelodau. Mae Aelodau yn dod at ei gilydd yn seiliedig ar eu diddordebau, personoliaeth ac oed. Os bydd y ddau aelod yn dymuno cwrdd, byddant yn cael cefnogaeth i fynd ar dêt yn seiliedig ar yr hyn yr hoffent ei wneud. Bydd pob aelod o staff neu wirfoddolwr ar gael i gynnig cymorth ar y dêt cyntaf (byddant yn warchodwr). Mae Luv2meetU hefyd yn cynnal digwyddiadau ‘pobl sengl yn minglo’ a gwib garu.
Eleni bydd y Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu yn gweithio gyda Hft i gyflwyno peilot Luv2MeetU Gogledd Cymru. Bydd y peilot wedi’i leoli yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, ond bydd pobl ar draws Gogledd Cymru yn gallu cael budd.
Os byddwch angen rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddwn yn eich hysbysu am gynnydd!