Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Adnoddau a Hyfforddiant

Lawer o’r amser, y rhwystr pennaf yw peidio â chael yr wybodaeth a chyngor cywir am berthnasoedd a rhyw. Mae angen i bobl gydag anableddau dysgu, eu rhieni / gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol i gyd allu cael mynediad i’r wybodaeth a’r cyngor cywir i sicrhau fod pawb yn aros yn ddiogel ac yn iach.

Caru wedi’i Gefnogi

Mae’r Rhwydwaith Supported Loving wedi creu pecyn defnyddiol. Mae hon yn gyfres o ganllawiau i helpu cefnogi pobl gydag anableddau dysgu gyda materion ynghylch rhyw a pherthnasoedd.

Mae’r canllawiau’n cynnwys:

  • Atal cenhedlu ac iechyd rhywiol
  • Trais Domestig a merched gydag anableddau dysgu
  • Ymddygiad rhywiol niweidiol
  • Help i rieni
  • Tai a chefnogi perthnasoedd
  • LGBTQ+
  • Gwneud ffrindiau
  • Mastyrbio
  • Canlyn ar-lein
  • Pornograffi
  • Hyfforddiant rhywioldeb a pherthnasoedd rhyw gadarnhaol
  • Gweithwyr rhyw
  • Aros yn ddiogel mewn perthnasoedd
  • Cefnogi pobl i ganlyn
  • Cefnogi perthnasoedd
  • Ysgrifennu polisi rhyw a pherthnasoedd

Mae’r Supported Loving Network hefyd yn dod i Gymru yn 2020! Bydd rhwydwaith Cymru yn cynnwys sefydliadau ac unigolion o bob rhan o’r wlad sy’n angerddol am wella cefnogaeth o amgylch perthnasoedd a rhyw ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu. Bydd y rhwydwaith yn cefnogi aelodau i drafod materion pwysig ac yn rhannu arferion gorau.

Bydd y Prosiect Gweddnewid Anableddau Dysgu yn mynd i lawr i Gaerdydd ym mis Mawrth ar gyfer cyfarfod cyntaf y rhwydwaith, lle bydd yn cael y cyfle i helpu llunio’r ffordd rydym eisiau i rwydwaith Cymru gael ei redeg. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi!

Mae Iechyd Rhywiol Swydd Buckingham hefyd wedi llunio rhestr ddefnyddiol o ganllawiau ac adnoddau hawdd i’w deall, gan gynnwys ap ar gyfer pobl ifanc.

Mae Grŵp Perthnasoedd a Chanlyn Gogledd Cymru wedi ailddechrau rŵan ac mae bellach yn cael ei gadeirio gan unigolyn gydag anabledd dysgu ac aelod o’r Prosiect Gweddnewid. Eleni bydd y grŵp yn cydweithio i edrych ar bolisi ac ymarfer ledled gogledd Cymru, gan adeiladu ar lawer o waith gwych, gan gynnwys Polisi Rhyw a Pherthnasoedd Conwy. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes wedi’i wneud gan Gonwy i greu eu polisi.

Pilot Projects

SPARC

Byddwn yn gweithio gyda Chyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru a’r Cwmni Addysg Rhyw ar ‘Sparc’. Mae hwn yn hyfforddiant rhyw a pherthnasoedd sy’n seiliedig ar hyfforddiant a gweithdai ar gyfer dinasyddion, rhieni/gofalwyr a staff. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu ar y cyd gan bobl gydag anableddau dysgu.

Cyffyrddiad Da

Byddwn yn gweithio gyda’r Cwmni Addysg Rhyw ar y prosiect ‘Cyffyrddiad Da’ sy’n cynnwys sesiynau hyfforddiant staff a sesiynau galw heibio rhieni/ gwarchodwyr ynglŷn â mastyrbio priodol.

MultiMe

Yn Wrecsam a Sir y Fflint, bydd y Prosiect Trawsnewid anableddau dysgu hefyd yn treialu’r defnydd o ap o’r enw MutiMe, i helpu pobl gydag anableddau dysgu i gymdeithasu mewn amgylchedd diogel ar-lein. Gellir ei ddefnyddio i gyfathrebu gyda phobl eraill, a sefydlu grwpiau o amgylch diddordebau cyffredin.

Luv2MeetU

Mae Luv2MeetU yn asiantaeth gyfeillgarwch a chanlyn ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth 18 oed a hŷn. Mae’n cefnogi pobl i wneud ffrindiau, rhannu diddordebau a datblygu perthnasoedd Mae Luv2MeetU yn cefnogi pobl i fwynhau ystod o weithgareddau, ac maent ond yn trefnu digwyddiadau y mae aelodau yn dymuno eu gwneud.