Rhywle o safon i fyw
Mae cael lle da i fyw yn bwysig i bawb.
Gall fod yn anodd i berson gydag anableddau dysgu gael ei gartref ei hun. Er enghraifft, gwyddom, ar draws y DU:
- Ychydig iawn o oedolion gydag anableddau dysgu sy’n berchen ar eu cartrefi eu hunain
- Mae oedolion gydag anableddau dysgu yn aml iawn yn byw gartref gyda’u rhieni a/neu aelod arall o’u teulu pan fyddan nhw yn eu 50au a’u 60au. Mae hyn yn golygu, weithiau, bod eu rhieni yn eu 80au a’u 90au.
- Mae yna lawer o oedolion gydag anableddau dysgu lle mae eu lleoliadau preswyl yn gartref hirdymor iddyn nhw – gall hyn olygu bod ganddyn nhw lai o arian i wario a llai o ddewisiadau o ran sut maen nhw’n byw eu bywydau.
Dewiswch un o’r dewisiadau isod i dderbyn rhagor o wybodaeth.
Mae’n bwysig bod pobl ag anableddau dysgu yn derbyn y llety a’r gefnogaeth i gwrdd â’u hanghenion yn y ffordd orau.
Mae’n bwysig ceisio dechrau cynllunio ar gyfer anghenion tai’r dyfodol cyn gynted â phosibl. Mae ardaloedd gwahanol yn cynllunio mewn ffyrdd gwahanol.
Wrth gwrs, mae cael lle da i fyw yn bwysig ond mae’r cymorth sydd ei angen arnom ni i fod yn annibynnol, diogel a hapus yn ein cartrefi hefyd yn bwysig iawn.