Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Dewisiadau llety

Yng Ngogledd Cymru, mae pobl ag anableddau dysgu yn byw mewn llawer o fathau o lety gwahanol, gan gynnwys:

  • Byw gyda theulu a ffrindiau
  • Byw mewn tŷ a rennir gyda phobl eraill ag anableddau dysgu, a gefnogir gan dîm o staff (rydym yn galw hyn yn byw yn y gymuned)
  • Byw mewn fflat neu dŷ eu hunain (maent yn berchen arno, neu’n rhentu gan landlordiaid cymdeithasol neu’r sector preifat)
  • Byw yn nhŷ rhywun arall (lle mae hyn wedi’i drefnu gan y Cyngor, rydym yn galw hyn yn ‘rhannu tŷ
  • Byw mewn cartref gofal
  • Byw mewn cartref maeth
  • Lleoliadau eraill dros dro, gan gynnwys ysbytai a charchar

Yma gallwch ddod o hyd i’r nifer o fathau o lety/lleoliadau ble mae pobl ag anableddau dysgu yn byw ar draws Cymru.

Mae’n bwysig fod pobl ag anableddau dysgu yn gallu cael llety a chefnogaeth mwyaf addas i’w hanghenion nhw, yn eu hardal leol. 

Adsefydlu a byw yn agosach at adref

Dros y 35 mlynedd diwethaf mae’r nifer o bobl ag anableddau dysgu sy’n byw mewn cartrefi gofal ac ysbytai wedi gostwng.  Mae hyn oherwydd bod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn gweithio’n galed i helpu pobl symud allan o ysbytai arhosiad hir, a cheisio osgoi symud pobl i gartrefi gofal.  Maent hefyd wedi ceisio sicrhau y gellir cefnogi mwy o bobl yn nes at adref.  I wneud hyn, mae Byw â Chymorth a dewisiadau tai eraill wedi eu datblygu ar draws Gogledd Cymru. 

Ond ar draws Gogledd Cymru, mae 180 o bobl ag anableddau dysgu yn parhau i fyw mewn cartrefi gofal cofrestredig nad ydynt yn eu sir eu hunain (rydym yn galw’r rhain yn ‘leoliadau y tu allan i’r sir’).  Rydym angen parhau i weithio gyda Chynghorau, Iechyd a Thai a darparwyr cymorth i newid hyn. 

Bryn y Neuadd

Ers nifer o flynyddoedd, roedd pobl ag anableddau dysgu yn byw mewn ysbytai, oedd llawer o filltiroedd i ffwrdd o gartrefi a theulu’r bobl yn aml.  Yng Ngogledd Cymru, roedd Gwasanaethau Cymdeithasol yn treulio llawer o amser yn gweithio gyda phobl oedd yn byw yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan i’w helpu i symud yn ôl i’w cymuned leol.  Roedd hyn yn cael ei alw’n adsefydlu.  Mae llawer o bobl oedd yn byw yn yr ysbyty nawr yn byw yn y gymuned yn agos at eu teulu a’u ffrindiau. 

Rhannu Tŷ

Mae Rhannu Tŷ yn ddewis arall sy’n gallu gweithio’n dda iawn ar gyfer llety tymor byr neu dymor hir gyda chefnogaeth.  Wrth rannu tŷ, mae unigolion neu deuluoedd gydag ystafell sbâr tŷ tymor byr neu dymor hir, gyda chefnogaeth, i bobl ag anableddau dysgu.

Gallwch hefyd gysylltu â’ch Cyngor Lleol os oes gennych ystafell sbâr ac efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn cynnig lleoliad Rhannu Tŷ.

Unrhyw dro mae unigolyn yn dewis rhannu gydag eraill (er enghraifft, byw yn y gymuned, neu rannu tŷ), mae’n bwysig bod pobl yn cael eu paru yn ôl personoliaeth, anghenion a dymuniadau.  Dylid gwneud hyn drwy gynnwys yr holl bobl sy’n mynd i fyw gyda’i gilydd, a sicrhau bod eiriolydd yn cymryd rhan. 

Edrychwch ar y fideo hwn ynglŷn â rhai profiadau am Rannu Bywydau. 

Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr trwy Zoom

Digwyddiad wedi’i rannu’n fideos. Edrychwch ar y ddau fideo ar gyfer y digwyddiad cyfan.