Y Blynyddoedd Cynnar
Gyrfa Cymru
Mae gan Gyrfa Cymru set newydd o dudalennau gwe ar eu gwefan i helpu pobl ifanc i benderfynu beth maen nhw am ei wneud ar ol gadael yr ysgol. Gall cynghorydd gyrfaoedd eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae nhw’n gallu helpu chi i feddwl am eich opsiynau a rhoi cynllun at ei gilydd. Gallwch weld eu gwefan yma.
Cyd-gynhyrchu ein Digwyddiad i Blant
Gweithdai Musaic Minds
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, ac fe wnaethom ddysgu llawer iawn o bethau! Mae’r adroddiad hwn yn sôn am y digwyddiad, a’r deg neges allweddol a ddysgom gan y plant, y bobl ifanc, y rhieni/ gofalwyr a’r staff oedd yn bresennol. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys ein cynllun gweithredu ar ôl y digwyddiad. Byddwn yn parhau i weithio’n agos â Rhaglenni Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol a Phlant i sicrhau bod y negeseuon hyn yn cael eu gweithredu.
Trosglwyddo
Bu i Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, groesawu pobl i’n digwyddiad i blant a phobl ifanc.
Siaradodd Sally am bwysigrwydd sicrhau cywirdeb wrth i bobl ifanc ag anableddau dysgu drosglwyddo i oedolaeth. Dywedodd hefyd bod lle i wella o ran rhai o’r ffyrdd yr ydym yn eu defnyddio i gefnogi plant a phobl ifanc. Cewch ddarllen yr adroddiad llawn gan ei swyddfa yma.
Mae gwneud yn siŵr bod y gefnogaeth o drosglwyddo yn gywir yn flaenoriaeth fawr ar gyfer ein gwaith. Mae gweithio cydgysylltiedig yn ffordd bwysig o sicrhau fod pobl yn cael y gefnogaeth gywir yn ystod hyn (a chyfnodau trosglwyddo eraill).
Prosiectau Peilot
Dull Teulu Cyfan
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Cyswllt Conwy a Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc Dinbych a Chonwy.
Mae’n ymwneud ag ymgymryd â ‘dull teulu cyfan’ i weithio gyda phobl ifanc ag anghenion mwy cymhleth a’u teuluoedd wrth iddynt baratoi i adael ysgolion uwchradd arbenigol.
Pontio
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ddarparu gan Wasanaeth Anableddau Dysgu Gwynedd a bydd yn cefnogi unigolion yn ystod cyfnodau pontio gwahanol yn eu bywydau.
Mae’r rhain yn cynnwys y blynyddoedd cynnar a datblygu i fod yn oedolyn. Bydd y prosiect yn ymwneud â datblygu dull partneriaeth, cydgysylltiedig i gefnogi lles pobl yn ystod y cyfnodau pwysig hyn yn eu bywydau.
Yn ogystal, byddant yn gweithio ar ddatblygu pecyn gwaith pontio lles a fydd yn cynnwys llawlyfr.
Cymhorthion fideo (Derwen)
Rydym yn cefnogi tîm integredig Derwen ar gyfer plant anabl (Mȏn) a gwasanaethau arbenigol plant ar gyfer plant anabl i ddefnyddio fideos i gefnogi cyfathrebu rhwng rhieni / plant. Bydd rhieni yn derbyn cefnogaeth i ddeall yr hyn mae eu plant yr hyn mae eu plant yn cyfathrebu yn well, a fydd yn eu helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth ddehongli anghenion eu plant, a gall hefyd helpu ag agosrwydd. Bydd y cynllun peilot hefyd yn rhoi cyfle i staff ddysgu mwy am gyfathrebu y blynyddoedd cynnar, a dysgu gwahanol ffyrdd o gyfathrebu’n well â phlant ifanc ag anableddau dysgu.
Seibiannau Byrion i Blant o dan 5 oed
Bydd y prosiect hwn yn mapio darpariaeth a galw ar gyfer / gan blant o dan 5 oed a’u teuluoedd, a gweithgareddau yn ystod seibiannau byrion i blant o dan 5 oed sydd ag anghenion cymhleth.
Mae hwn yn angen sydd wedi cael ei grybwyll gan rieni sydd yn cael trafferth cael mynediad at rai o gyfleoedd y brif ffrwd ac yn teimlo dan straen ac ynysig.
Glan-llyn
Rydym yn cefnogi Glan-llyn wrth uwchsgilio a chynnig mwy o gyfleoedd i blant ag anableddau dysgu gael gwyliau yn llawn hwyl a sbri.