Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Bod yn fwy annibynnol gartref

Bod â rhywle o safon i fyw

Nid llety yn unig sy’n bwysig er mwyn bod â rhywle o safon i fyw ynddo – mae’r gefnogaeth sydd gennym i fod yn annibynnol, diogel a hapus yn ein cartrefi hefyd yn bwysig iawn.

Mae rhai yn derbyn cefnogaeth drwy Asiantaeth Ofal.  Efallai y bydd eraill yn cyflogi rhywun eu hunain i’w cefnogi yn eu cartrefi, gan ddefnyddio Taliad Uniongyrchol yn aml.

Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf – Meithrin Annibyniaeth

Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gynllunio tai â chymorth.  Edrychwch ar y cyflwyniad a’r fideos isod.

Darparu Datrysiadau Tai – 21 Ionawr 2019

Gweld y cyflwyniad
Fideo – Safbwynt rhiant
Fideo – Safbwynt tenant

Technoleg

Mae pobl yn defnyddio gwahanol dechnolegau yn eu cartref.  Yng Ngogledd Cymru mae gennym nifer o dai neu fflatiau arddangos technoleg y gall pobl ymweld â nhw i weld a dysgu am y gwahanol dechnolegau cynorthwyol sydd ar gael i’w helpu.  Ar hyn o bryd, mae’r rhain ar gael yn Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych.  Mae adborth gan nifer yn nodi ei bod yn amlwg ei bod yn bwysig iawn i nifer allu gweld y pethau hyn ar waith.  Y rheswm dros hyn yw oherwydd fe all fod yn anodd deall technolegau oni bai eich bod yn cael cyfle i roi cynnig arnynt eich hunain.  Mae Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu eisiau cynorthwyo pobl i gael gwell dealltwriaeth o sut y gall gwahanol dechnolegau gynorthwyo pobl yn eu cartrefi, ac annog pobl i gael y ‘Sgwrs am Dechnoleg’ yn amlach wrth gynllunio cefnogaeth.

Eleni rydym yn cefnogi Wrecsam i ddiweddaru eu hystafell arddangos.  Rydym hefyd yn mynd i arddangos nifer o wahanol fathau o dechnolegau cynorthwyol ar draws Gogledd Cymru, gan gynnwys cynnal digwyddiad.  Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â ni.

Mae Wrecsam yn gweithio’n agos gyda Phrosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu i wella’r defnydd o’r gwahanol dechnolegau i gynorthwyo pobl i fyw yn fwy annibynnol.  Mae Cyngor Sir Wrecsam wedi llunio partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Dewis Cyntaf i hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol yn eu cynlluniau byw â chymorth.  Maent hefyd wedi cysylltu â Delta, a fydd yn eu cynorthwyo i ystyried effaith defnyddio gwahanol dechnolegau.

Gallwch hefyd edrych ar dŷ clyfar ar-lein yma.  Mae hyn yn dangos rhywfaint o’r dechnoleg gynorthwyol y gall pobl eu defnyddio yn eu cartrefi i wella eu hannibyniaeth, ansawdd bywyd a diogelwch.  Mae eu gwefan hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am dechnolegau a sut i’w defnyddio’n ddiogel.

Cartref Hyblyg – The Acorns

Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf hefyd wedi bod yn gweithio i ddarparu technoleg gynorthwyol mewn lleoliadau tai â chymorth.  Edrychwch ar y cyflwyniad a’r fideo isod.

Gweld y cyflwyniad
Fideo – Ar waith!

Adroddiad Gwerthuso – Cartref Byw â Chymorth Clyfar