Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Gwasanaethau Ddi-dor i bobl ag Anableddau Dysgu

Croeso i ‘Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Gwasanaethau Ddi-dor ar gyfer Pobl gydag Anableddau Dysgu’. Dyma un o’r pedwar Prosiect Trawsnewid yng Ngogledd Cymru, a elwir hefyd yn Brosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu.

Ar y wefan hon, cewch wybodaeth am y prosiect, sut y gallwch gymryd rhan a gwybodaeth arall y gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi. Yr ydym wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu dogfennau yn ddwy-ieithog.  Mewn rhai achosion nid yw hyn wedi bod yn bosib gan fod fersiwn Gymraeg o’r ddogfen allanol ddim ar gael. Cysylltwch a’r awdur gwreiddiol os gwelwch yn dda os ydych angen y gwybodaeth mewn fformat gwahanol.

Newyddion a Diweddariad

**NEWYDD** Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu

Ar ran Grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru, rydym ni’n falch iawn o rannu Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer pobl ag Anableddau Dysgu (2024 i 2029) gyda chi. Wrth wraidd y strategaeth hon mae llais pobl sydd ag anableddau dysgu a’r newid mawr sydd eiangen yn eu barn nhw i alluogi mwy o bobl i gael mynediad cyfartal at waith cyflogedig. 

Nod y strategaeth yw rhoi grym i bobl sydd ag anableddau dysgu drwy hwyluso eu mynediad at waith cyflogedig wrth barchu eu dewisiadau a meithrin cymunedau cynhwysol. Mae’n tanlinellu’r potensial am dwf personol a gwell iechyd a lles pan mae unigolion sydd ag anableddau dysgu mewn gwaith ac yn ennill cyflog, a allai yn ei dro leihau eu hangen am wasanaethau wedi’u hariannu gan yr awdurdod lleol.

Y brif ffordd y bydd y strategaeth yn cael ei rhoi ar waith ar draws Gogledd Cymru yw drwy integreiddio Model Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru o fewn gwasanaethau gwaith cymdeithasol anableddau dysgu ar y cyd â gwasanaethau cyflogaeth â chymorth arbenigol yn dilyn safonau model Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth BASE UK.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Kim Killow ar kim.killow@flintshire.gov.uk

Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu. Fersiwn Cymraeg.

Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu. Fersiwn Saesneg.

Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu. Cymraeg, Fersiwn Hawdd ei Darllen..

Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu. Saesneg, Fersiwn Hawdd ei Darllen.

Ein COP DGC 1af a'n tudalen we wedi'i diweddaru ar Gymorth Gweithredol a PBS.

Cliciwch ar y llun i weld mwy am ein COP PBS 1af a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2024

Mae gennym dudalen benodol ar gyfer popeth Cymorth Gweithredol a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol (PBS) – Edrychwch arno! Cliciwch ar y llun i fynd â chi i’r dudalen.

Canllaw Ymarferol ar Benderfynu â Chefnogaeth

Rydym yn falch o allu rhannu’r canllaw ymarferol hwn i wneud penderfyniadau â chymorth. Gweithiodd Paradigm gyda dinasyddion, teuluoedd, Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd ac eraill i ddatblygu’r adnodd dwyieithog hwn. Mae’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Mae nifer cyfyngedig o gopïau ar gael drwy gysylltu â ni ar ldtransformation@flintshire.gov.uk.

Cliciwch ar y lluniau isod i agor y dogfennau

Dogfennau Pecyn Cymorth Taliadau Uniongyrchol

Datblygwyd y taflenni ynghlwm mewn partneriaeth â Mark Cooper o Gyngor Sir y Fflint a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan.

Datblygwyd hwy yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau o deuluoedd a oedd wedi dweud eu bod angen mwy o wybodaeth hygyrch o bwy sydd yn gymwys am Daliadau Uniongyrchol ac ar gyfer beth ellir eu defnyddio.

Mae’r taflenni yn crynhoi rhannau o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sydd yn ymdrin â gofal a chymorth a Thaliadau Uniongyrchol.

Cliciwch ar y lluniau isod i agor y dogfennau

Taliadau Uniongyrchol Crynodeb o Ran 4 o’r Cod Ymarfer

Hawdd ei Ddeall Taliadau Uniongyrchol - Crynodeb o’r Côd Ymarfer

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Rhan 4: Adran 32 Cymhwysedd Uniongyrchol

Hawdd ei Ddeall Cymhwystra ar gyfer Gwasanaethau a Thaliadau Uniongyrchol

Adnodd Cefnogaeth Taliadau Uniongyrchol

Mae ein tudalen adnoddau yn cynnwys llawer o fideos defnyddiol, E-ddysgu a gwybodaeth i bawb eu defnyddio

Am beth mae’r prosiect yn sôn?

Ein nod yw cefnogi pobl a sefydliadau i sicrhau fod pobl sydd ag anableddau dysgu yn gallu byw bywyd da. Mae Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru 2018-2023 yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer y gwaith yma. Rydym ni bellach yn gweithio gyda nifer o bobl a sefydliadau gwahanol i ddarganfod beth sy’n gweithio’n dda, a sut y gallwn ni gefnogi newidiadau pan fo eu hangen.

Mae’r Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru (trwy Cymru Iachach) tan ddiwedd Chwefror 2022. Rydym ni’n atebol i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cliciwch yma i weld eu gwefan.

Coronafeirws
Themâu Strategaeth
Gwybodaeth am y Prosiect
Cymryd Rhan
Bwrdd Prosiect
Cwrdd â’r Tîm
Cysylltwch â ni