Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Adnoddau

Croeso i'n tudalen adnoddau

Dewch o hyd i amrywiaeth o adnoddau y gallwch eu defnyddio a’u rhannu.

Chanllaw Arfer Da Bywyd ar ôl yr Ysgol Taith pobl ifanc gydag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad adroddiad ymchwil a Chanllaw Arfer Da Bywyd ar ôl yr Ysgol: taith pobl ifanc gydag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.

Fe wnaed yr ymchwil gan Raglen Drawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd ar ran Grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru. Pwrpas yr ymchwil oedd i ddeall pa mor dda mae Gogledd Cymru yn bodloni anghenion datblygu unigol pobl ifanc gydag anableddau dysgu ar hyn o bryd a lle mae angen gwelliant. Mae’r ymchwil yn gorffen gyda chyfres o argymhellion i bartneriaid ym meysydd iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyflogaeth a sgiliau a Llywodraeth Cymru.

Mae’r pecyn ymchwil yn cynnwys:
• Yr adroddiad ymchwil llawn, y crynodeb gweithredol a fersiwn hawdd i’w ddarllen yn y Gymraeg a’r Saesneg.
• Canllaw Arfer Da yn y Gymraeg a’r Saesneg.
• I ddod yn fuan! Adnodd Bywyd ar ôl yr Ysgol: casgliad o fideos byr wedi eu hanelu at bobl ifanc gydag anableddau dysgu. Mae pob clip yn edrych ar wahanol faes bywyd yn seiliedig ar yr hyn mae pobl ifanc wedi dweud sy’n bwysig iddynt wrth iddynt gynllunio eu camau nesaf ar ôl yr ysgol.

Cliciwch ar y lluniau isod i agor y dogfennau

Gwneud pethau'n iawn i bobl ag Anableddau Dysgu

Gwneud pethau’n iawn i bobl ag Anableddau Dysgu E-Ddysgu

Suitable for staff who are providing direct support to people with learning disabilities

Suitable for staff who are providing direct support to people with learning disabilities

Cwrs E-Ddysgu codi ymwybyddiaeth cyffredinol

Cwrs E-Ddysgu codi ymwybyddiaeth cyffredinol

Yn addas ar gyfer yr holl staff a all ddod i gysylltiad â phobl ag anableddau dysgu ond nad ydynt yn darparu cymorth uniongyrchol.

 

Cliciwch ar y llun ar yr ochr i gael mynediad i’n modiwl E-Ddysgu.. 

Ffilm wedi'i chydgynhyrchu - New Horizons

Edrychwch ar ein ffilm Gorwelion Newydd!

Ysgrifennwyd a chynhyrchwyd y ffilm hon ac mae’n serennu pobl ag Anableddau Dysgu o Ogledd Cymru.

Mae’n canolbwyntio ar rai negeseuon sylfaenol am gefnogaeth dda a chafodd ei ffilmio yn ystod y cyfyngiadau symud yn 2020. 

Da iawn i bawb a gymerodd ran! Mae’n ffilm wych.

Cliciwch ar y llun i ddechrau’r ffilm.

Datganiad Annibyniaeth

Clywch ein llais!

 

Gwerthoedd ac Ymddygiad Adnoddau

Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiadau

Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio i helpu rheolwyr o fewn sefydliadau i feddwl am ethos a gwerthoedd eu sefydliad a’u cefnogi i foderneiddio dulliau recriwtio traddodiadol i gynnwys ffocws ar werthoedd ac ymddygiadau allweddol sy’n sicrhau bod pobl yn cael “cymorth da”. Gwyddom mai “cymorth da” sy’n canolbwyntio ar arferion a chanlyniadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yw’r hyn sy’n gweithio i gefnogi pobl i fyw bywyd da.