Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd
Gwasanaethau Ddi-dor i bobl ag Anableddau Dysgu
Croeso i ‘Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd: Gwasanaethau Ddi-dor ar gyfer Pobl gydag Anableddau Dysgu’. Dyma un o’r pedwar Prosiect Trawsnewid yng Ngogledd Cymru, a elwir hefyd yn Brosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu.
Ar y wefan hon, cewch wybodaeth am y prosiect, sut y gallwch gymryd rhan a gwybodaeth arall y gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi. Yr ydym wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu dogfennau yn ddwy-ieithog. Mewn rhai achosion nid yw hyn wedi bod yn bosib gan fod fersiwn Gymraeg o’r ddogfen allanol ddim ar gael. Cysylltwch a’r awdur gwreiddiol os gwelwch yn dda os ydych angen y gwybodaeth mewn fformat gwahanol.
Newyddion a Diweddariad
Ein COP DGC 1af a'n tudalen we wedi'i diweddaru ar Gymorth Gweithredol a PBS.
Canllaw Ymarferol ar Benderfynu â Chefnogaeth
Rydym yn falch o allu rhannu’r canllaw ymarferol hwn i wneud penderfyniadau â chymorth. Gweithiodd Paradigm gyda dinasyddion, teuluoedd, Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd ac eraill i ddatblygu’r adnodd dwyieithog hwn. Mae’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Mae nifer cyfyngedig o gopïau ar gael drwy gysylltu â ni ar ldtransformation@flintshire.gov.uk.
Dogfennau Pecyn Cymorth Taliadau Uniongyrchol
Datblygwyd y taflenni ynghlwm mewn partneriaeth â Mark Cooper o Gyngor Sir y Fflint a Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan.
Datblygwyd hwy yn dilyn ymgynghoriad gydag aelodau o deuluoedd a oedd wedi dweud eu bod angen mwy o wybodaeth hygyrch o bwy sydd yn gymwys am Daliadau Uniongyrchol ac ar gyfer beth ellir eu defnyddio.
Mae’r taflenni yn crynhoi rhannau o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sydd yn ymdrin â gofal a chymorth a Thaliadau Uniongyrchol.
Cliciwch ar y lluniau isod i agor y dogfennau
Am beth mae’r prosiect yn sôn?
Ein nod yw cefnogi pobl a sefydliadau i sicrhau fod pobl sydd ag anableddau dysgu yn gallu byw bywyd da. Mae Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru 2018-2023 yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer y gwaith yma. Rydym ni bellach yn gweithio gyda nifer o bobl a sefydliadau gwahanol i ddarganfod beth sy’n gweithio’n dda, a sut y gallwn ni gefnogi newidiadau pan fo eu hangen.
Mae’r Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru (trwy Cymru Iachach) tan ddiwedd Chwefror 2022. Rydym ni’n atebol i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cliciwch yma i weld eu gwefan.