Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Gwirfoddoli

Os ydych chi’n penderfynu nad gwaith am dâl yw’r dewis cywir ar eich cyfer chi, mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli ardderchog ar gael! Gall gwirfoddoli fod yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau a magu hyder, a gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch cymuned.

Os ydych yn derbyn budd-daliadau, cofiwch siarad â’r Adran Gwaith a Phensiynau cyn dechrau swydd wirfoddol, gan fod rhai o’r un rheolau yn berthnasol i waith am dâl a gwaith di-dâl.

I gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal chi, ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu gyngor y gwasanaethau gwirfoddol.

Mae’n bosib y gall rhai sefydliadau gynnig credydau amser, i’w gwario ar weithgareddau /  gwasanaethau.   Mae’r Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu wedi cofrestru i gynnig Tempo Time Credits i unigolion sy’n gwirfoddoli gyda ni. Cewch wybod mwy am Tempo Time Credits yma.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi peth o’ch amser fel gwirfoddolwr i’n helpu ni i wneud gwaith y Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu, cysylltwch â ni.