Cyflogwyr
Os ydych chi’n gyflogwr sydd eisiau cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu, mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud:
Cysylltwch â’ch cyngor lleol, neu sefydliadau megis Remploy, Engage to Change a Chymdeithas Syndrom Down, i wybod mwy am yr hyfforddiant a chymorth sydd ar gael i chi ac o bosib, i ddod o hyd i’r unigolyn perffaith i lenwi eich swydd wag.
Cofrestrwch i fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Ystyriwch pa mor hygyrch yw eich proses recriwtio a’ch gweithle.
Mae Remploy yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys astudiaethau achos a phamffledi canllawiau. Cofiwch hefyd y gall unigolion wneud cais am gyllid Mynediad i Waith i helpu i sicrhau’r gefnogaeth ychwanegol y gallai fod ei hangen ar unigolion yn y gweithle oherwydd eu hanabledd.