Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Cyflogaeth

Chwalu’r mythau ynglŷn â gwaith am dâl

Mae llawer iawn o gefnogaeth ar gael os ydych yn chwilio am swydd. Cliciwch ar y llun i Chwalu’r Mythau ynglŷn â Gwaith am Dâl.

Darllenwch Stori Beth isod i weld enghraifft o ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol i gefnogi cyflogaeth. Gallwch hefyd siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr cefnogi ynglŷn â sut y gall Taliadau Uniongyrchol fod o gymorth mewn ffyrdd tebyg.

Cyflogaeth / Interniaethau a Gefnogir

Os ydych chi’n teimlo eich bod eisiau cefnogaeth i’ch cynorthwyo â gwneud eich gwaith, gallai cyflogaeth a gefnogir fod yn addas i chi.

Rydym eisiau sicrhau bod dull gweithio mewn partneriaeth i gyflogaeth a gefnogir, a bod gan bobl y cyfle i wneud penderfyniadau a chyflawni eu potensial.

Y nod yw cael llwybrau clir a’r gefnogaeth gywir yn ystod camau gwahanol o siwrneiau pobl.

Edrychwch ar y gwaith y mae’r Alban wedi’i wneud i greu fframwaith cyflogaeth a gefnogir, gyda hyn mewn golwg.

Dyma rai sefydliadau y gallwch siarad â nhw am gyfleoedd cyflogaeth a gefnogir.

Project SEARCH

Mae Project SEARCH yn raglen interniaeth a gefnogir i bobl ifanc gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Mae Hft yn Sir y Fflint yn treialu Project SEARCH yn 2019/20 ac mae’r Prosiect Gweddnewid Anableddau Dysgu yn gweithio ag ardaloedd eraill i edrych ar sut y gallwn gefnogi cynlluniau peilot Project SEARCH eraill. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd wedi bod yn cynnal Project SEARCH yn Ysbyty Gwynedd.

Mae’r fideo hwn yn sôn ychydig am eu profiad o’r Prosiect.

Gweithio’n seiliedig ar gryfderau yn Sir Ddinbych

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi creu olwyn adnoddau yn seiliedig ar asedau, i gefnogi sgyrsiau sy’n seiliedig ar gryfderau. Ers dechrau defnyddio’r olwyn adnoddau, mae mwy o staff gwaith cymdeithasol wedi bod yn cyfeirio at gymorth cyflogaeth ‘prif ffrwd’ drwy Sir Ddinbych Yn Gweithio.

Byddwn yn gweithio’n agos â Chyngor Sir Ddinbych dros y flwyddyn nesaf i gefnogi’r gwaith cydgysylltiedig hwn rhwng cymorth prif ffrwd ac arbenigol, i sicrhau fod pobl ag anableddau dysgu yn gallu cael mynediad at y cymorth cyflogaeth cywir ar eu cyfer.

Prosiectau Peilot

Mae sawl prosiect y gall weithio â phobl ag anableddau dysgu i’w helpu i ganfod a chadw swyddi. Mae rhai o’r prosiectau hyn ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn unig, ac mae rhai yn agored i bawb – a weithiau gall y mathau gwahanol o wasanaethau hyn weithio mewn partneriaeth i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth yr ydych ei hangen. Bydd y math cywir o gymorth ar eich cyfer chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’r hyn yr ydych eisiau’i gyflawni.

Noder, efallai bydd rhai o’r prosiectau wedi eu heffeithio gan Covid-19. Rydym yn anelu i gadw’r dudalen wedi ei ddiweddaru fel bydd y prosiectau yn datblygu.

Gwaith, cynhwysiant a fi

Rhaglen 8 mis o hyd drwy Brifysgol Glyndŵr – lleoliadau gwaith am dâl, canfod swyddi ac ymgyrchu. I’w chwblhau gyda 5 o bobl ifanc ag anableddau dysgu / awtistiaeth, yn canolbwyntio ar ganfod cyflogaeth ystyrlon am dâl.

Codi proffil cyrsiau cyflogaeth

Cyrsiau ar-lein i’w cynnal yng Ngogledd Cymru,  i bobl ifanc rhwng 14 – 19 mlwydd oed ac aelod o’r teulu, er mwyn hyrwyddo manteision cyflogaeth fel dewis mewn bywyd, yn cynnwys sgiliau canfod swydd amrywiol, cefnogi cyflogaeth a materion budd-daliadau, yn ogystal â diwrnodau gweithgaredd.

Prifysgol Glyndŵr

Yn 2020, bydd y Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr i dreialu rhaglen interniaeth gyda thâl, bydd myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu cymorth mentora i bobl ag anableddau dysgu i ymgymryd â swyddi dros dro yn y Brifysgol.