Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Cymryd Risg Cadarnhaol

Cymryd risgiau cadarnhaol, a chefnogaeth yn seiliedig ar gryfderau

Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn golygu hawliau’r unigolion i wneud eu penderfyniadau eu hunain, a rôl yr unigolion sy’n eu cefnogi i sicrhau y gallant wneud y penderfyniadau hyn yn ddiogel.  Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llunio canllaw defnyddiol yn egluro cymryd risgiau cadarnhaol.

Mae Gwasanaethau Anabledd Dysgu Cumbria hefyd wedi datblygu polisi hawdd ei ddarllen am gymryd risgiau cadarnhaol, y gallwch ei weld yma.

Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn faes pwysig wrth drafod rhyw a pherthnasoedd.  Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mae cefnogaeth yn seiliedig ar gryfderau yn ymwneud â chymryd risgiau cadarnhaol, oherwydd mae’n canolbwyntio ar yr elfennau cadarnhaol, nid canolbwyntio ar yr hyn na allant ei wneud ond yr hyn y maent yn gallu ei wneud.

Mae’r fideo hwn yn egluro mwy am ystyr dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau, a pham eu bod yn bwysig.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi llunio olwyn adnodd i gefnogi staff i gael sgyrsiau a chynllunio cefnogaeth gyda phobl mewn modd sy’n canolbwyntio ar eu cryfderau.  Mae hyn wir wedi cynorthwyo i newid sut mae pobl yn meddwl, a chymryd mwy o risgiau cadarnhaol.  

Er enghraifft, ers iddynt ddefnyddio’r olwyn adnodd, mae mwy o staff gwaith cymdeithasol wedi bod yn cefnogi pobl gydag anableddau dysgu i dderbyn mwy  o gefnogaeth cyflogadwyedd ‘prif ffrwd’ nag yr oeddent yn flaenorol.

Prosiect Peilot

Caledwedd Technolegol

Nod y cynllun peilot / prosiect fydd cyflwyno technoleg i bobl, i nodi beth sydd ar gael a chysylltu’r dechnoleg gyda nodau a chanlyniadau pobl.  Bydd yn ceisio dangos sut y gellir defnyddio technoleg er mwyn i bobl fod yn fwy annibynnol a chefnogi galluogi risg yn y cartref ac yn y gymuned.