Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Cynllunio’r llety cywir gyda chymorth

Mae’n bwysig ceisio dechrau cynllunio ar gyfer anghenion tŷ yn y dyfodol gynted â phosibl.  Mae ardaloedd gwahanol yn cynllunio mewn ffyrdd gwahanol.  Yng Nghyngor Sir Ddinbych er enghraifft, maent wedi datblygu taenlen anghenion tai, sy’n cofnodi a nodi’r math o lety a lleoliad y bydd pobl ei angen yn y dyfodol, a phryd byddant ei angen.  Mae hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn i gynllunio beth fydd yn cael ei ddatblygu i bobl ag anableddau dysgu yn y dyfodol a helpu i arbed pobl rhag gorfod mynd i dŷ anaddas.

Mae cefnogi rhieni/gofalwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn bwysig iawn wrth gwrs.  Mae Cyswllt Conwy wedi bod yn helpu gofalwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol ers nifer o flynyddoedd, ac rydym wedi cefnogi Sir Ddinbych i gomisiynu’r gefnogaeth hon gan Cyswllt Conwy yn eu hardal.

Pecyn cynllunio ar gyfer y dyfodol

Eleni byddwn hefyd yn gweithio gydag Estyn Allan i Ofalwyr i gynllunio ar gyfer pecynnau y dyfodol (gan gynnwys pecynnau rhyngweithiol ar lein).  Ar ôl eu datblygu byddwn yn eu cynnwys ar y dudalen hon. 

I wybod mwy, gan gynnwys sut gallwch gael mynediad i’r gefnogaeth hon, cliciwch yma

Gallwch ddarllen ein hadroddiad llety am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth yr ydym wedi dod o hyd iddo, a beth mae’r Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu yn bwriadu ei wneud i geisio sicrhau fod gan bobl y llety â chymorth cywir i’w hanghenion a’u dymuniadau, gallwch ddarllen ein hadroddiad llety am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r hyn rydym wedi dod o hyd iddo, a beth mae’r Prosiect Trawsnewid Anabledd Dysgu am geisio ei wneud i sicrhau fod gan bobl y llety â chymorth cywir ar gyfer eu hanghenion a’u dymuniadau. 

Mae’r canllaw hwn gan y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am ddatblygu a chyllido’r llety a chefnogaeth orau i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru, gan gynnwys:

-darparu canllawiau ac edrych ar opsiynau gwahanol ar gyfer cynllunio llety a gwasanaethau cymorth ar gyfer bywyd da

– edrych ar sut y gall llety a chynnig cymorth ganolbwyntio mwy ar yr unigolyn a bod yn hyblyg, i gynnig agwedd ‘cymorth ar gyfer bywyd da’

– edrych ar sut y gallwn gynyddu dewisiadau llety agosach at adref,

– awgrymu sut y gallwn wneud gwasanaethau yn fwy diweddar

Cyd-gynhyrchu datrysiadau

Yng Nghonwy rydym yn gweithio gyda grŵp o unigolion i lunio’r cynllun gorau i’w helpu i fyw yn agosach at adref.  Bydd y dull newydd hwn yn cynnwys cydgynllunio a chomisiynu rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Rydym wedi trefnu cyfarfodydd, ac mae teulu agos yn helpu i’w hyrwyddo, i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed, a’n bod yn gwybod yn union beth fyddan nhw ei angen i wneud eu cartref newydd yn llwyddiant.

Bydd yn rhoi’r dechrau gorau i unigolion gael bywyd o ansawdd da ger teulu a ffrindiau.