Sut ydym ni’n cyfathrebu
Edrychwch ar y fideo – dod i adnabod FI er mwyn cyfathrebu a FI sy’n cynnwys pobl o Ogledd Cymru yn rhannu awygrymiadau da ar sut i gyfathrebu’n dda a nhw!
Mae ein dull o gyfathrebu yn bwysig iawn er mwyn deall a chefnogi ein gilydd. Weithiau gall pobl sydd ag anableddau dysgu wynebu heriau ychwanegol er mwyn cyfleu yr hyn maent ei angen a’i eisiau.
Mae Cyngor Conwy wedi llunio’r canllaw cyfathrebu defnyddiol a hawdd ei ddefnyddio yma ar gyfer gweithwyr proffesiynol.
Ffordd bwysig arall y gallwn sicrhau fod gan bobl sydd ag anableddau dysgu ddewis a rheolaeth wirioneddol yw drwy sicrhau fod yr wybodaeth yn hawdd i’w ddarllen a’i ddeall. Mae Anabledd Dysgu Cymru yn cynnig llawer o adnoddau a chanllawiau defnyddiol i helpu sefydliadau i sicrhau fod eu gwybodaeth yn hawdd i’w ddarllen, ac i ddeall pam ei bod mor bwysig, yn cynnwys:
– Geiriau Diffiniadau Hawdd Ei Ddeall Cymru
– Llawlyfr Eglur a Hawdd
– Check it! pecyn adnoddau i wirio gwybodaeth hawdd ei ddeall
– Canllawiau i wneud Cymraeg yn hawdd i’w ddarllen a’i ddeall
Gwyliwch y fideo yma gan Anabledd Dysgu Cymru ynglŷn ag elfennau sylfaenol hawdd ei ddeall.
Technoleg gynorthwyol i helpu cyfathrebu
Mae yna lawer o ffyrdd y gall technolegau helpu pobl i gyfathrebu’r hyn sydd fwyaf pwysig iddynt, a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth gywir. Byddwn yn peilota dau ap eleni i helpu pobl wneud hyn.
Prosiectau Peilot
“here2there”
Mae “here2there” yn ffordd i bobl gofnodi stori o’u cyflawniadau trwy eiriau a lluniau, a’u cysylltu i’w canlyniadau a nodau. Yna gellir rhannu’r rhain gyda’r rhai sy’n rhoi cefnogaeth iddynt, helpu pobl i aros mewn cysylltiad a deall sut y gallant helpu pobl i gyflawni’r canlyniadau y maent ei eisiau.
“My Health Guide”
Rydym ni hefyd yn gweithio gyda hft i beilota defnyddio ap o’r enw “My Health Guide”. Mae’n defnyddio geiriau, lluniau, fideo a sain i ddal a rheoli’r wybodaeth sy’n bwysig iddynt, yn cynnwys pethau am eu hiechyd a lles, a pha weithgareddau maent wedi bod yn eu gwneud. Yna gall unigolion ddewis rhannu’r wybodaeth hon gyda phobl bwysig yn eu bywydau.