Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Bod â phethau eraill i’w gwneud

Wrth gwrs nid gwaith yw’r unig weithgaredd ystyrlon y gallwn ei wneud. Mae llawer o weithgareddau eraill y gallwn eu gwneud i’n helpu i deimlo boddhad ac i gael ychydig o hwyl!

Gallwch ganfod beth sy’n mynd ymlaen yn eich ardal chi mewn sawl ffordd. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Dewis Cymru am lawer o grwpiau, gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau a allai fod o gymorth i’ch lles yn eich ardal leol.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth / Presgripsiynu Cymdeithasol

Gall cynghorau lleol neu rai gwasanaethau annibynnol sy’n rhoi ‘gwybodaeth, cyngor a chymorth’ neu sy’n darparu gwasanaeth ‘presgripsiynu cymdeithasol’ eich rhoi mewn cysylltiad â gweithgareddau a grwpiau cymunedol lleol.

Mae Linc Cymunedol Môn yn wasanaeth sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n gweithio gyda thrigolion Ynys Môn i ganfod gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol yn yr ardal sy’n cyd-fynd â diddordebau pobl.

Mae Cydlynwyr Asedau Lleol yn gweithio gyda phobl sydd o bosibl yn teimlo’n ynysig neu’n unig, neu a fyddai’n hoffi cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau yn eu hardal leol. Mae pob Cydlynydd Asedau Lleol yn gweithio mewn meddygfeydd a chanolfannau cymunedol neu o’u cwmpas. Maent yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar asedau sy’n golygu eu bod yn canolbwyntio ar ‘beth sy’n gryf’ ac nid ‘beth sydd o’i le’. Mae Linc Cymunedol Môn yn deall beth sydd ei angen ar bobl a beth maent am ei weld yn eu cymunedau, maent hefyd yn helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a llunio datblygiad gwasanaethau.

Ewch i wefan Medrwn Môn i ddarllen Stori Brian a Ned.

I ganfod a oes gwasanaethau fel hyn yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu edrychwch ar wefan Dewis.

Mae’r Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu yn gwneud gwaith eleni i geisio cefnogi gwasanaethau sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth/ presgripsiynu cymdeithasol fel hyn i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau anableddau dysgu. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod pobl ag anableddau dysgu yn gallu elwa o bob math o weithgareddau yn y gymuned – nid gweithgareddau a gwasanaethau sydd wedi’u llunio’n arbennig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn unig.

Cyfleoedd Dydd

O bryd i’w gilydd efallai y bydd pobl ag anableddau dysgu yn mynd i ganolfannau dydd. Gall canolfannau dydd fod yn ‘ganolbwyntiau’ pwysig lle gall pobl wneud llawer o wahanol weithgareddau, cwrdd â ffrindiau a chael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.

Enghraifft: Roedd Hft yn Sir y Fflint wedi bod yn darparu cyfleoedd dydd mewn adeilad a oedd yn anaddas i’r diben. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint a thrwy gydweithio’n agos â phobl ag anableddau dysgu a rhieni/gofalwyr, agorwyd Hwb Cyfle yn 2019.  Mae Hwb Cyfle yn fan golau ac agored sydd wedi’i osod allan mewn ffordd sy’n galluogi pobl i ddewis bod mewn amryw o wahanol amgylcheddau, a chymryd rhan yn y gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddyn nhw yn unig. Mae ganddyn nhw amrywiaeth o bobl yn dod i mewn a chynnig llawer o wahanol weithgareddau i’r mynychwyr, gan gynnwys dysgu llawer o sgiliau newydd a mwynhau!

Wrth gwrs mae’n bwysig iawn bod pobl ag anableddau dysgu yn gallu bod yn rhan o’u cymunedau eu hunain. Dyna pam mae llawer o wasanaethau dydd yng Ngogledd Cymru wedi gwneud llawer o waith i sicrhau bod pobl yn gallu mynd allan i wneud llawer o wahanol weithgareddau os ydynt yn dymuno.

Prosiect Peilot

Eleni bydd y Prosiect Trawsnewid Anableddau Dysgu hefyd yn treialu ychydig o brosiectau sy’n canolbwyntio ar weithgareddau a grwpiau cymdeithasol cynhwysol.

Fy Nghanllaw Iechyd yn Hwb Cyfle

Eleni rydym yn mynd i weithio gyda Hwb Cyfle i dreialu ap o’r enw ‘Fy Nghanllaw Iechyd’ gydag unigolion sy’n defnyddio Hwb Cyfle. Mae’n defnyddio geiriau, lluniau, fideos a sain i gasglu a rheoli’r wybodaeth sy’n bwysig iddyn nhw, gan gynnwys pethau am eu hiechyd a’u lles, a pha weithgareddau y maent wedi bod yn eu gwneud. Yna gall unigolion ddewis rhannu’r wybodaeth hon gyda phobl bwysig yn eu bywydau.