Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd

Gweithio Gyda'n Gilydd

Canolfannau

Mae’n bwysig iawn bod Gwasanaethau yn gweithio mewn partneriaeth gyda’i gilydd i sicrhau bod pobl yn cael y gefnogaeth gywir, ar yr amser iawn.

Mae nifer o feysydd yn symud tuag at ‘ddull canolfannau’, lle gall pobl ymweld a chael gwybodaeth, cyngor a chymorth gan staff yr awdurdod lleol a’r trydydd sector.

Mae Pwyntiau Siarad Sir Ddinbych yn fodel mae Cyngor Sir Ddinbych wedi’i roi ar waith i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i holl breswylwyr Sir Ddinbych.

Cydweithio

Gall cronni cyllid fod yn ffordd wych o helpu gwasanaethau i gydweithio’n well. Weithiau gall hyn fod yn anodd, pan fo gan sefydliadau ffyrdd gwahanol o weithio. Ond mae hyn yn golygu ei fod yn bwysicach fyth! Er mwyn helpu gwasanaethau i weithredu cyllid wedi’i gronni, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i sefydliad o’r enw Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru). Buon nhw’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ysgrifennu cyngor ymarferol am sut i fynd ati i gronni cyllid.

Mae’r cyngor yn ddefnyddiol iawn ac mae’n egluro mai’r rheswm dros gronni cyllid yw gwella canlyniadau i lawer o wahanol bobl, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu. Trwy gronni cyllid, gall gwasanaethau gydweithio’n well mewn ffordd ddiogel a chyfreithlon er mwyn diwallu anghenion cefnogaeth iechyd a gofal cymdeithasol unigolion. Mae hyn yn arbennig o bwysig i unigolion sydd angen gofal a chefnogaeth gan lawer o wahanol wasanaethau a gweithwyr proffesiynol. Mae hefyd yn helpu unigolion i gael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt yn gyflymach a gall hyn helpu pobl i barhau i gael ansawdd bywyd da yn eu cartref eu hunain.

Prosiect Peilot

Cyllidebau Cyfun

Eleni, byddwn yn cefnogi rhai cyllidebau cyfun i gronni cyllid rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.